Gwnewch gais i fod yn Llysgennad Myfyrwyr ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2025-26.
Ceisiadau’n cau: 11pm, dydd Mercher 14 Mai 2025
MAE CYMAINT O RESYMAU DROS DDOD YN LLYSGENNAD MYFYRWYR YM MHRIFYSGOL ABERTAWE:
1. Cynllun Llysgenhadon Myfyrwyr â Thâl gyda hyfforddiant llawn a ddarperir wrth ennill profiad gwerthfawr i wella eich CV.
2. Cwrdd â phobl newydd a chynrychioli Prifysgol Abertawe mewn amrywiol ddigwyddiadau; gyda chyfleoedd am waith â thâl gydag adrannau ledled y Brifysgol.
3. Mynychu cymdeithasau rheolaidd trwy gydol y Flwyddyn Academaidd.
4. Cyfle i wneud cais am ddyrchafiad i Uwch Lysgennad Myfyrwyr ar ôl blwyddyn fel Llysgennad Myfyrwyr.
5. Cyfle i wneud cais am y cynllun Crëwr Cynnwys Digidol i greu cyfryngau cymdeithasol ar gyfer y brifysgol fel vlogs, TikToks a blogiau.
6. Gweithio tuag at Wobr Llysgennad Myfyrwyr ac Achrediad WoWee gydag Academi Cyflogadwyedd Abertawe a/neu Wobr cyfrwng Cymraeg Academi Hywel Teifi sydd, ar ôl ei chwblhau, yn cael eu cydnabod ar eich Tystysgrif HEAR adeg Graddio.
Dewch o hyd i’r Disgrifiad Swydd ynghlwm. Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â studentambassadors@swansea.ac.uk