Hyffordda i addysgu gyda Phrifysgol Abertawe
Wrth i ti agosáu at ddiwedd dy daith israddedig, nawr yw’r amser perffaith i ystyried y cam nesaf – gan droi dy wybodaeth a’th frwdfrydedd yn yrfa addysgu wobrwyol.
Mae addysgu’n broffesiwn cystadleuol, gydag astudiaethau wedi’u hariannu, rhagolygon ardderchog a chyflogau sy’n dechrau ar £32,400 gyda’r posibilrwydd o ennill hyd at £140,600 fel pennaeth ysgol yng Nghymru.
Mwy am y Cwrs TAR (Tystysgrif Addysg i Raddedigion) Uwchradd yn Abertawe
- Mae’r cwrs hwn yn gymhwyster addysgu ôl-raddedig â Statws Athro Cymwysedig (QTS) – Darganfod mwy
- Hyd y cwrs yw 36 wythnos (12 wythnos yn y Brifysgol, wedi’u dosbarthu drwy gydol y flwyddyn, a 24 wythnos mewn dwy ysgol ar leoliad gwaith)
- Mae’r rhaglen yn dechrau ar ddechrau mis Medi ac yn gorffen ar ddiwedd mis Mehefin
- Mae’r pynciau a gynigir yn cynnwys:Saesneg, Mathemateg, Cymraeg, Ieithoedd Tramor Modern, Bioleg, Dylunio a Thechnoleg, Cyfrifiadureg, Cemeg, Ffiseg, Hanes, Daearyddiaeth
- Mae bwrsariaethau ar gael i bynciau blaenoriaeth: Mathemateg, Cymraeg, Ieithoedd Tramor Modern, Dylunio a Thechnoleg, Cyfrifiadureg, Bioleg, Cemeg a Ffiseg
- Mae bwrsariaethau ar gael hefyd i’r myfyrwyr hynny sy’n dilyn y llwybr cyfrwng Cymraeg ac i’r rhai o gymunedau mwyafrif byd-eang
Wedi dy ysbrydoli?
Mae astudio cwrs TAR yn Abertawe yn golygu y byddi di’n derbyn hyfforddiant pwnc arbenigol wedi’i alinio ag anghenion y cwricwlwm cenedlaethol, byddi di’n elwa o bartneriaethau cryf ag ysgolion lleol, a bydd gennyt gymorth rhagorol gan diwtoriaid a mentoriaid profiadol.
Cofia, nid wyt ti’n ennill cymhwyster yn unig – rwyt ti’n ymuno â chymuned frwdfrydig, broffesiynol sy’n ymrwymedig i ragoriaeth mewn addysg.