Hoffem achub ar y cyfle hwn i roi gwybodaeth asesu bwysig i chi sy’n ymwneud â chyhoeddi eich canlyniadau, ein Polisi Amgylchiadau Esgusodol ac Apeliadau Academaidd.

Sylwer, bydd dyddiadau rhai rhaglenni’n wahanol i’r dyddiadau isod, gan gynnwys rhai rhaglenni yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd. Gofynnir i fyfyrwyr sy’n dilyn y rhaglenni hyn gysylltu â’u Hysgol/Cyfadran am wybodaeth bellach ynghylch dyddiadau cyhoeddi eu canlyniadau.

Cyhoeddi eich canlyniadau

Caiff eich canlyniadau eu cyhoeddi drwy eich cyfrif myfyriwr ar y fewnrwyd. Ni ellir datgelu canlyniadau dros y ffôn neu drwy e-bost.

Bydd yr wybodaeth ganlynol yn ymddangos ar y sgrîn ‘Modiwlau 2024’; eich modiwlau a’r marciau a enillwyd, y penderfyniad ynghylch eich dyfarniad a gwybodaeth bellach.

Isod, ceir y dyddiadau a’r amseroedd pan fydd eich canlyniadau’n cael eu cyhoeddi:

  • Myfyrwyr israddedig nad ydynt yn eu blwyddyn olaf – Dydd Llun 14 Gorffennaf 2025.
  • Myfyrwyr israddedig yn eu blwyddyn olaf – Dydd Iau 3 Gorffennaf 2025.
  • Myfyrwyr Ôl-raddedig a Addysgir – Dydd Iau 3 Gorffennaf 2025.

Bydd canlyniadau myfyrwyr israddedig ar gael o’r amseroedd canlynol ar y dyddiadau a nodwyd uchod:

  • Y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg – 9.00AM.
  • Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol  – 9.30AM.
  • Y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd – 10.00AM.

Os ydych chi’n profi unrhyw anhawster wrth fewngofnodi i’ch cyfrif ar fewnrwyd y myfyrwyr, cysylltwch â Desg Gwasanaeth TG.

Ymholiadau

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch eich canlyniadau/penderfyniad academaidd, cysylltwch â’ch Ysgol/Cyfadran. Os credwch fod unrhyw farciau yn anghywir, cewch ymholi ynghylch hyn.

Apeliadau Academaidd

Os ydych am apelio yn erbyn eich penderfyniad, mae canllawiau llym i’w dilyn. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch y Weithdrefn Apeliadau Academaidd ar gael.

Amgylchiadau Esgusodol

Os oes gennych chi amgylchiadau esgusodol rydych chi’n ystyried eu bod yn effeithio ar eich perfformiad academaidd, (cyflwyno gwaith cwrs a/neu asesiadau) dylech chi gysylltu â’ch Ysgol/Cyfadran ar frys.

Gallwch gyrchu’r Polisi Amgylchiadau Esgusodol a’r Cwestiynau Cyffredin yma.

Trawsgrifiadau Academaidd

Gallwch gyrchu eich Trawsgrifiad Academaidd swyddogol drwy eich cyfrif myfyriwr ar y fewnrwyd, mae’r botwm ‘Trawsgrifiad’ o dan y tab ‘Manylion y Cwrs’ ar yr ochr dde.

Bydd myfyrwyr sydd wedi cwblhau eu hastudiaethau hefyd yn gallu canfod eu trawsgrifiad ar eu cyfrif Gradintel a’u Hadroddiad Cyrhaeddiad Addysg Uwch (HEAR).

Gallwch weld/weithredu eich cyfrif Gradintel drwy eich Cyfrif MyUni, os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch ag aelod o’r tîm a fydd yn gallu eich helpu chi.

Graddio

Bydd y Swyddfa Raddio’n cysylltu â’r holl fyfyrwyr perthnasol sydd wedi derbyn dyfarniad i roi rhagor o wybodaeth ynghylch tystysgrifau gradd. Edrychwch ar ein tudalennau gwe Graddio i weld gwybodaeth benodol yn ymwneud â seremonïau graddio’r Haf. Os byddwch chi’n graddio heb fod yn bresennol yn y seremoni raddio, caiff eich tystysgrif gradd ei hanfon i’ch cyfeiriad cartref o fewn 8 wythnos i’r canlyniad gael ei gyhoeddi.

Myfyrwyr Rhyngwladol

Dylai’r holl fyfyrwyr sydd â fisa drwy’r Llwybr Myfyrwyr (neu Haen 4) fynd i’r dudalen sy’n rhoi gwybodaeth am fewnfudo ar ôl derbyn canlyniadau. Bydd hyn yn helpu i esbonio unrhyw oblygiadau o ran fisa a/neu weithgarwch cysylltiedig y gall fod ei angen (gan gynnwys drwy’r Llwybr Graddedigion).

Gweler hefyd y dudalen we sy’n rhoi gwybodaeth am Lwybr Graddedigion y DU i gael arweiniad ychwanegol ar amseriadau, cymhwysedd a’r broses cyflwyno cais am fisa.

Swyddfa Asesu a Dyfarniadau
Gwasanaethau Addysg