Mae’r Ganolfan Llwyddiant Academaidd am recriwtio nifer o wirfoddolwyr ymysg y myfyrwyr i fod yn Llysgenhadon Uniondeb Academaidd.
Helpwch i greu diwylliant o uniondeb academaidd ledled y Brifysgol. Dewch i fod yn Llysgennad Uniondeb Academaidd a mwyafu potensial eich gyrfa!
- Byddwch yn llais ac yn fodel rôl ar gyfer uniondeb academaidd ym Mhrifysgol Abertawe
- Gallwch hyrwyddo a meithrin diwylliant o uniondeb academaidd
- Gallwch drefnu gweithgareddau hyrwyddo, cynnal gweithdai a digwyddiadau a arweinir gan fyfyrwyr
- Gallwch ymweld â chyrsiau mewn cyfadrannau gwahanol i godi ymwybyddiaeth o uniondeb academaidd
- Gallwch gynorthwyo gyda datblygu adnoddau addysgol, y cyfryngau cymdeithasol a gweithgareddau marchnata
- Byddwch yn gyswllt i fyfyrwyr a staff academaidd o ran uniondeb academaidd
Dewch â’ch syniadau a dweud eich dweud! Gallwch chi lywio’r rhaglen hon!
Pam bod yn Llysgennad Uniondeb Academaidd? Dyma rai o'r manteision…
- Arddangos uniondeb i gyflogwyr y dyfodol
- Mae’n edrych yn wych ar eich CV
- Ehangu eich rhwydwaith
- Meithrin sgiliau arweinyddiaeth
- Datblygu eich sgiliau cyfathrebu
- Hyfforddiant ar gyfer siarad yn gyhoeddus
- Ennill profiad marchnata a rheoli digwyddiadau
- Gwella sgiliau trefnu
- Mwynhau cyfleoedd datblygu
- Cael hwyl!
Pwy sy'n gallu bod yn Llysgennad Uniondeb Academaidd a sut i gyflwyno cais?
- Dylai ymgeiswyr fod wedi cwblhau o leiaf un semester os ydynt yn astudio ar raglen israddedig. Gall myfyrwyr graddedig gyflwyno cais ar unrhyw adeg yn ystod eu hastudiaethau.
- Byddwn yn darparu hyfforddiant – felly does dim angen i chi fod yn arbenigwr mewn uniondeb academaidd eto, parodrwydd i ddysgu sydd ei eisiau!
- Os ydych wedi cael achos o gamymddygiad academaidd, byddwn yn croesawu eich cais gan fod eich profiad yn werthfawr
BYDD ANGEN EICH CEISIADAU ARNOM ERBYN 23/05/2025 5PM.