Dydd Iau yw’r bedwaredd ar ddeg Diwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd y Byd.

Pwrpas GAAD yw annog pawb i siarad, meddwl a dysgu am hygyrchedd a chynhwysiant, a dros 1 biliwn o bobl gydag anableddau. Er bod technoleg gynorthwyol wedi canolbwyntio ar roi cymorth i fyfyrwyr ag anableddau yn hanesyddol, gall y cynhyrchion hyn gynnwys nifer o nodweddion a fydd o gymorth i bob myfyriwr.

Dyma rai enghreifftiau o’r adnoddau sydd ar gael ichi:

Mae Prifysgol Abertawe wedi buddsoddi mewn amrywiaeth o dechnoleg gynorthwyol a all roi cymorth i fyfyrwyr wrth fod yn gynhyrchiol yn eu hastudiaethau.

(Glean) Mae’r meddalwedd yn grymuso myfyrwyr gyda rhwystrau cymryd nodiadau i wneud nodiadau ystyrlon trwy ddarparu gofod i ganolbwyntio ar wrando gweithredol ac yna cyfle i brosesu i fireinio a chadw gwybodaeth yn effeithiol.

(Read&Write) Mae’n gallu helpu gyda nifer o dasgau, er enghraifft, darllen testunau hir neu ysgrifennu a phrawf-ddarllen eich aseiniadau, neu mae’n cynnig cymorth gydag adolygu am eich arholiadau. 

Gellir dod o hyd i’r holl raglenni meddalwedd ar y bwrdd gwaith unedig o dan “Accessibility”.

Mae gan wefan Prifysgol Abertawe bar offer reciteme. Nodwedd technoleg gynorthwyol ar gwmwl, sy’n galluogi defnyddwyr i addasu tudalennau gwe’r Brifysgol i’r hyn sy’n gweithio orau ar eu cyfer!

Gallwch newid maint ffont, iaith, a thema lliw y wefan i enwi ychydig o nodweddion.

Mae Windows/Office 365 gan y mwyafrif o gyfrifiaduron campws. Wyddoch chi fod gan ddyfeisiau Microsoft Windows ystod eang o nodweddion hygyrch? Gan gynnwys chwyddwyr, hidlwyr lliw, nodweddion cyferbynnu, meddalwedd adnabod llais, darllenydd trochi a mwy.

Yn ogystal â hygyrchedd digidol, mae amgylchedd ffisegol o bwys. Mae nifer o nodweddion dylunio hygyrch ar y campws gan gynnwys palmant botymog, arwyddion braille, desgiau mae modd addasu eu huchder, ystafell i fyfyrwyr â nam ar eu golwg a mwy.

Mae ein hystafell VI yn Llyfrgell Singleton wedi’i lleoli ar lefel 3.

Ar lawr lefel 3, mae gan yr ystafell bum desg hygyrch, gorsafoedd ddocio, monitor a bysellfwrdd print bras, soffa cyfforddus a digonedd o le ar gyfer cŵn tywys.

Mae’r prosbectws israddedig ar gael mewn fformat electronig hygyrch, wedi’u cynhyrchu gan Canolfan Drawsgrifio Prifysgol Abertawe. Rydym yn cynhyrchu fformatau hygyrch (megis braille, print bras, electronig ar gyfer darllenwyr sgrîn) o adnoddau dysgu ar gyfer myfyrwyr ag anableddau print. Rydym yn teilwra ein cefnogaeth i gwrdd ag anghenion myfyrwyr unigol.

Mae pawb Prifysgol Abertawe eisiau i’n myfyrwyr lwyddo, ac rydym yn cynnig llawer o gefnogaeth a chymorth lle bo’r angen. Mae ein “Canllaw i Gymorth a Chefnogaeth Ychwanegol” ar gyfer unrhyw un sydd ag anabledd neu anhawster hir-dymor.

Dolen Canllaw: https://www.swansea.ac.uk/cy/gwasanaethau-cymorth-i-fyfyrwyr/canllaw-i-gymorth-a-chefnogaeth-ychwanegol/