O ddydd Mawrth 27 Mai, bydd gwaith gwella hanfodol yn dechrau i osod to newydd ar y Ganolfan Chwaraeon ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe, Lôn Sgeti.
Bydd y gwaith hwn yn cyflwyno gwelliannau hirdymor i’r holl ddefnyddwyr ac maen nhw’n angenrheidiol er mwyn sicrhau y bydd yr adeilad yn parhau i fod yn ddiogel, yn effeithlon o ran ynni ac yn addas at y diben, gan ddarparu profiad chwaraeon gwell fyth yn y dyfodol.
Mae ein Tîm Gwasanaethau Prosiectau wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r contractwr i leihau effaith y gwaith i wneud yr holl welliannau a fydd yn cyfoethogi’r profiad chwaraeon drwy’r canlynol:
- To newydd sbon ar y Ganolfan Chwaraeon
- Goleuadau LED CLYFAR, awyru a phaneli solar wedi’u huwchraddio
- Llawr pren newydd sbon yn y neuadd chwaraeon
- Cylchau pêl-fasged newydd, gan alluogi chwarae cwrt llawn
- Paneli acwstig i leihau adlais a sŵn
I gynnal y gwaith hwn yn ddiogel, bydd angen i’r Neuadd Chwaraeon gau tan yn hwyr yn 2025.
Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’r Tîm Datblygu Chwaraeon a’r tîm rheoli ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe i sicrhau y bydd lleoliadau amgen eraill ar gael i’r rhai hynny sy’n defnyddio’r Neuadd Chwaraeon yn rheolaidd, gan gynnwys Clybiau Chwaraeon.
Beth fydd ar agor o hyd?
Er y bydd y neuadd chwaraeon ar gau drwy gydol y gwaith, ni fydd y gwaith yn effeithio ar y rhan fwyaf o’r cyfleusterau eraill:
- Bydd modd cyrraedd y gampfa, y neuadd amlbwrpas, stiwdios Evolve, yr ystafelloedd newid a swyddfeydd y balconi o hyd drwy’r coridor cysylltu (efallai y bydd tarfu tymor byr ar adegau).
- Ni fydd y gwaith yn effeithio ar Bwll Cenedlaethol Cymru.
- Bydd eisteddle gwylwyr y trac awyr agored ar agor o hyd, a bydd sgaffaldwaith a rhwyd uwchben yr eisteddle at ddibenion diogelwch.
- Parcio: Er na fydd y gwaith yn effeithio ar y rhan fwyaf o’r maes parcio, ni fydd modd defnyddio’r baeau parcio i’r anabl (oddeutu 20-25 o leoedd) i sicrhau bod digon o le ar gyfer caban y contractiwr. Caiff lleoedd bathodyn glas eu hadleoli (manylion i ddod yn fuan).
Rydym yn gwerthfawrogi’ch amynedd a’ch dealltwriaeth yn fawr yn ystod y gwaith gwella hanfodol hwn. Os oes gennych ymholiadau neu bryderon am waith adnewyddu’r to a’r gwaith cysylltiedig arall, e-bostiwch ni yn campusdevelopment@abertawe.ac.uk.
Ceir rhagor o wybodaeth fanwl am y prosiect a’i effaith, gan gynnwys cynlluniau’r safle a chwestiynau cyffredin ar wefan Parc Chwaraeon Bae Abertawe yma.
Ystadau a Gwasanaethau Campws