Bydd y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd yn cynnal ymarfer hyfforddiant ynghylch digwyddiad mawr i’w myfyrwyr parafeddygaeth yn eu blwyddyn olaf ddydd Gwener 30 Mai 2025 a fydd yn effeithio ar fynediad i rai ardaloedd ar Gampws Singleton.
Ymarfer Hyfforddiant ynghylch Digwyddiad Mawr
Gan ddod â’n myfyrwyr parafeddygaeth, staff ac aelodau o Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) ynghyd, bydd yr ymarfer hwn yn efelychu’r sefyllfa ar ôl ffrwydrad mewn ffatri tân gwyllt lle efelychir anafiadau i sawl unigolyn yn ardal y Ddôl ar Gampws Singleton.
Mae’r senario wedi cael ei gynllunio’n ofalus i ddarparu amgylchedd hynod realistig er mwyn datblygu sgiliau myfyrwyr mewn brysbennu, cludiant cleifion a rheoli argyfwng.
Bydd yr ymarfer yn darparu golygfa efelychu fanwl, gan gynnwys y defnydd o gerbydau brys ac anafiadau ymddangosiadol realistig, er mwyn helpu ein myfyrwyr parafeddygaeth i ddatblygu eu profiad o frysbennu, cludo a rheoli cleifion yn ystod digwyddiad mawr go iawn.
Gweithrediadau ar y Campws
Bydd yr ymarfer yn dechrau am oddeutu 10.15am ac yn gorffen am oddeutu 4.30pm, gyda sesiynau wedi’u cynllunio ar gyfer y bore a’r prynhawn. Bydd prysurdeb mwy nag arfer a cherbydau brys yn ardal y Ddôl ar Gampws Singleton, a gaiff ei hynysu rhag staff a myfyrwyr.
Rydym yn deall gall hyn fod yn ofidus i rai pobl, er ei fod yn ddigwyddiad hyfforddiant pwysig iawn i fyfyrwyr. Cynghorir y rhai hynny sy’n teimlo’n ofidus oherwydd yr efelychiad i osgoi’r ardal.