Rydym yn edrych ymlaen at dy groesawu di i’th seremoni raddio sydd ar ddod yn arena drawiadol Abertawe, sef lleoliad digwyddiadau diweddaraf a mwyaf cyffrous de Cymru.
Dyma rai awgrymiadau am deithio cyn dy ymweliad:
Teithio ar y trên neu’r bws
Gellir cyrraedd Arena Abertawe Building Society ar droed mewn 16 munud neu mewn 6 munud mewn car o orsaf drenau Abertawe ac mae gorsaf fysiau Abertawe’n agosach byth.
Mae gan Abertawe orsafoedd trenau a bysiau â chysylltiadau da sy’n cynnwys llawer o lwybrau ledled Abertawe, Cymru, y Gororau, Manceinion a de Lloegr.
Oes angen i ti storio dy fagiau? Mae gan Gyngor Abertawe gyfleusterau storio bagiau sydd ar gael i’w defnyddio drwy siop Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe. Gellir dod o hyd i gostau, oriau agor a rhagor o wybodaeth yma.
Teithio mewn car
Dylet ti fewnbynnu ‘Swansea Arena’ neu ‘Swansea Arena Building Society’ i’th hoff ap gwe-lywio neu fewnbynna SA1 3BX i’th Sat Nav.
Os wyt ti’n cyrraedd ar yr M4, dylet ti ddefnyddio allanfa 47 os wyt ti’n teithio o’r gorllewin neu allanfa 42 os wyt ti’n teithio o’r dwyrain.
Gellir cyrraedd Arena Abertawe Building Society yn hawdd mewn car ac mae nifer o feysydd parcio cyhoeddus yng nghyffiniau’r Arena. Dyma restr o feysydd parcio a argymhellir gan yr Arena a’u prisoedd.
Sylwch, yn ystod wythnos graddio, bydd gwaith ffordd helaeth ar Fabian Way (o’r gylchfan Amazon i’r slipffordd yr M4). Cymerwch hyn mewn ystyriaeth os ydych yn teithio’r llwybr hwn.
Mae Uber yn gweithio yn Abertawe bellach; mae’r gwasanaeth adnabyddus hwn sydd ar gael ar alwad yn barod i’th wasanaethu, yn ogystal â’th ddarparwyr tacsis cymeradwy lleol arferol.
Map graddio
Ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl? Defnyddia ein Map Graddio newydd i ymgyfarwyddo â chyffiniau dy ddigwyddiad!
Mae’n hawdd llywio’r map rhyngweithiol hwn ac mae’n gallu tawelu dy feddwl cyn y diwrnod mawr.
Cynaliadwyedd
Fel rhan o’n Strategaeth Cynaliadwyedd a Newid yn yr Hinsawdd, rydym yn annog yr holl raddedigion i ystyried opsiynau teithio sy’n ddiogel ac sydd o les i’r amgylchedd. Gelli di ddarllen rhagor am ein gwaith yma.
Hygyrchedd
Rydym am i ti a’th ffrindiau/deulu gael profiad cynhwysol a phleserus gyda ni. Mae Arena Abertawe Building Society wedi darparu rhagor o wybodaeth o ran hygyrchedd y lleoliad.
Oes gennych chi gwestiwn neu ymholiad? Ewch i’n tudalennau gwe graddio yn y lle cyntaf. Os na fedrwch ddod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano, cysylltwch â’r Tîm Graddio.