Mae’r Brifysgol wrth ei bodd yn rhannu’r newyddion ein bod wedi llwyddo i ennill Gwobr Efydd y Siarter Cydraddoldeb Hil (REC). Mae’r cyflawniad hwn yn cydnabod ein hymrwymiad i wneud gwir newidiadau ac yn atgyfnerthu ymrwymiad y Brifysgol i sicrhau cydraddoldeb hil ledled y sefydliad.
Mae Gwobr y Siarter Cydraddoldeb Hil yn dangos ein hymroddiad i greu prifysgol fwy cynhwysol — lle mae’r holl fyfyrwyr ac aelodau staff, yn enwedig y rhai o gefndiroedd ethnig leiafrifol, yn teimlo eu bod yn perthyn ac yn cael cyfleoedd cyfartal i ffynnu.
Gan ddefnyddio fframwaith y Siarter Cydraddoldeb Hil, mae’r brifysgol wedi adolygu a dadansoddi data ac adborth yn ofalus i nodi’r heriau a’r rhwystrau y mae myfyrwyr a staff ethnig leiafrifol yn eu hwynebu. Mae hon wedi bod yn broses heriol, yn cynnwys materion sensitif a chymhleth a oedd yn galw am ymagwedd feddylgar a chymorth cryf gan uwch-arweinwyr i sicrhau cynnydd go iawn a pharhaol.
Mae gennym gynllun gweithredu 5 mlynedd ar waith nawr i fynd i’r afael â blaenoriaethau allweddol er mwyn gwella profiadau a chyfleoedd myfyrwyr ethnig leiafrifol.
Dyma rai o’n blaenoriaethau allweddol:
- Datblygu campws mwy cynhwysol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn.
- Gweithio tuag at sicrhau cydraddoldeb mewn canlyniadau gradd rhwng myfyrwyr gwyn o’r DU, myfyrwyr ethnig leiafrifol o’r DU, a myfyrwyr rhyngwladol, heb newid safonau academaidd ar gyfer unrhyw grwpiau.
- Sefydlu fframweithiau clir, dibynadwy i adrodd am hiliaeth a microymosodiadau, boed ar y campws neu oddi arno.
Edrychwch ar ein tudalen Cydraddoldeb Hil am ragor o wybodaeth ynghylch:
- Digwyddiadau rydyn ni wedi’u cynnal yn gysylltiedig â chynhwysiant.
- Ein cwrs gwrth-hiliaeth.
- Polisïau ac adroddiadau allweddol.
- Ein Pwyllgor Cynghori Myfyrwyr ar Gynhwysiant Hil (RISAC) anhygoel — elfen fawr o’r rheswm pam y gwnaethom ennill y wobr hon!