Rydym yn deall bod hwn yn gyfnod anodd a phryderus i unrhyw un yr effeithiwyd gan hediad Air India AI171 o Ahmedabad i Gatwick. Mae ein meddyliau gyda’r rhai yr effeithiwyd arnynt a’u teuluoedd.
Os oes angen rhywun arnoch i siarad ag ef, gwyddoch fod cymorth ar gael trwy ein timau Gwasanaethau Myfyrwyr ymroddedig, eich timau lles Cyfadran, neu drwy Ganolfan Cyngor a Chymorth Undeb y Myfyrwyr.
Mae gennym hefyd ystod o adnoddau a gwybodaeth arbenigol i’ch cefnogi ar ein tudalennau gwe.
Os ydych chi’n cael eich effeithio gan aflonyddwch parhaus, cysylltwch â thîm Diogelwch ac Ymateb Campws y brifysgol ar 01792 604271 neu drwy ap SafeZone.
Cymerwch ofal a pheidiwch ag oedi cyn ceisio cymorth os oes ei angen arnoch.