Noda’r dyddiad, bydd fersiwn gychwynnol o dy amserlen ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf yn cael ei rhyddhau yng nghanol mis Gorffennaf!
Diolch i adborth gan fyfyrwyr, rydym wedi gwneud gwelliannau sylweddol i dy brofiad o amserlennu gyda ni. Un o’r gwelliannau hyn yw creu a rhyddhau dy amserlen gychwynnol yn gynharach.
Bydd dy amserlen gychwynnol bellach yn cael ei chreu a’i rhyddhau 7 wythnos yn gynharach na’r blynyddoedd blaenorol.
Rydym yn gobeithio y bydd rhyddhau dy amserlen gychwynnol yn gynharach yn dy alluogi i gynllunio dy fywyd yn well y tu allan i’r brifysgol. Rydym yn deall pa mor bwysig yw teulu, gwaith ac ymrwymiadau cymdeithasol eraill i ti.
Fel gyda phob amserlen gychwynnol, sylwer y gallai newid o hyd. Mae sawl rheswm pam y gall eich amserlen newid. Enghraifft dda yw dewis modiwlau: os yw’r mwyafrif o fyfyrwyr yn dewis modiwlau penodol, mae maint rhai dosbarthiadau’n tyfu. Mae maint dosbarthiadau mwy yn golygu gorfod trefnu ystafelloedd mwy, a gall yr effaith ganlyniadol hon arwain at newidiadau i dy amserlen nes ymlaen. Cadwa hyn mewn cof wrth drefnu ymrwymiadau y tu allan i dy fywyd yn y brifysgol.
Hefyd, gofynnodd myfyrwyr am well cyfathrebu ynghylch rhyddhau’r amserlen, ac rydym yn cyflawni hynny (wrth i ni siarad!). Rydym yn rhoi mwy o rybudd i fyfyrwyr ynglŷn â rhyddhau amserlenni, a hefyd byddwn yn esbonio:
- Sut mae dy amserlen yn cael ei llunio.
- Pam mae dy amserlen yn newid.
- Cwestiynau Cyffredin ynglŷn ag Amserlennu
Cadwa lygad am gyfathrebiadau pellach ynglŷn ag amserlennu i ddeall y darlun ehangach y tu ôl i bob amserlen.
Rydym yn gobeithio bod y gwelliannau hyn yn cyfoethogi dy addysg, dy brofiad a dy fywyd fel myfyriwr gyda ni. Fyddai’r gwelliannau hyn ddim yn bosibl heb dy adborth ystyrlon; mae wir yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.
Cysyllta â Thimau Gwybodaeth y Cyfadrannau am unrhyw wybodaeth ychwanegol; bydd aelod cyfeillgar o staff yn hapus i helpu.
Amserlennu Academaidd
Y Gwasanaethau Addysg