Wrth i dy seremoni raddio nesáu yr haf hwn, mae’n bwysig gofyn i ti dy hun:  Wyt ti’n barod am fywyd ar ôl y brifysgol?

Os wyt ti’n camu i fyd cyflogaeth neu’n ystyried parhau â’th astudiaethau gyda ni, bopeth y mae ei angen arnat ti!

Fel myfyriwr presennol yn Abertawe, rwyt ti’n gymwys ar gyfer y Llwybr Carlam! Gwna gais heddiw, ac fe gei di benderfyniad gennym o fewn 2 ddiwrnod Gwaith.

I dy helpu i bontio i dy yrfa broffesiynol, fel un o raddedigion Abertawe gelli di gael cyngor arbenigol ar dy CV, paratoi ar gyfer cyfweliadau neu archwilio llwybrau gyrfa. Mae ein tîm ymroddedig yn cynnig cymorth personol wedi’i deilwra i dy nodau.

Hyd yn oed os wyt ti’n ddigon ffodus dy fod eisoes wedi sicrhau rôl ar ôl graddio, os wyt ti mewn sefyllfa yn ddiweddarach lle mae angen cymorth arnat, byddwn yma i ti o hyd.

Cofia, mae hwn yn amser cyffrous sy’n llawn posibiliadau. Am ragor o wybodaeth, gwiria dy e-byst myfyriwr.