Mae’r neges hon oddi wrth Gwasanaethau Digidol
Fel rhan o’n hymdrechion parhaus i wella ein system rheoli e-bost a sicrhau diogelwch ac effeithlonrwydd ein cyfathrebiadau, rydym yn gweithredu polisi archifo e-byst newydd.
Dyddiad dod i rym: 14 Gorffennaf 2025
Trosolwg o’r Polisi: O’r dyddiad dod i rym, bydd pob e-bost sy’n hŷn na 12 mis yn cael ei archifo’n awtomatig. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw e-bost a dderbynnir neu a anfonir fwy na 12 mis yn ôl yn cael ei symud i flwch post archif. Yn dibynnu ar eich fersiwn o Outlook, efallai y bydd eich blwch post archif yn cael ei alw’n Online-Archive, In Place Archive neu Personal Archive.
Am wybodaeth fanwl a chanllawiau cam wrth gam, mae’n hanfodol clicio ar y ddolen isod i weld ein herthygl yn y Gronfa Wybodaeth:
Gweld Erthygl yn y Gronfa Wybodaeth ar Archifo E-bost
Mae’r erthygl hon yn cynnwys popeth sydd angen i chi ei wybod am gael mynediad at eich negeseuon e-bost wedi’u harchifo a’u rheoli. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ei darllen os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon.
Mae archifo yn helpu i leihau annibendod yn eich mewnflwch ac yn sicrhau bod negeseuon e-bost pwysig yn cael eu cadw mewn modd diogel.
Pwyntiau Allweddol:
- Archifo Awtomatig: Bydd negeseuon e-bost sy’n hŷn na 12 mis yn cael eu harchifo’n awtomatig heb fod angen unrhyw gamau gweithredu gennych chi.
- Mynediad at E-byst sydd wedi’u Harchifo: Byddwch yn dal i allu cael mynediad at eich e-byst sydd wedi’u harchifo yn hawdd drwy’r blwch post archif yn eich cleient e-bost.
Buddion:
- Rheoli E-byst yn well: Yn helpu i gynnal mewnflwch mwy taclus a threfnus.
- Diogelwch Gwell: Mae negeseuon e-bost sydd wedi’u harchifo yn cael eu cadw’n ddiogel, gan leihau’r risg o golli data.
- Effeithlonrwydd: Yn symleiddio’r system e-bost, gan ei gwneud hi’n haws dod o hyd i gyfathrebiadau diweddar a pherthnasol.
Rydym yn deall y gall newidiadau i reoli e-byst fod yn sylweddol, felly, rydym yma i’ch cefnogi drwy’r newid hwn. Os oes gennych gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch, mae croeso i chi gysylltu â’r Ddesg Gymorth TG https://www.swansea.ac.uk/cy/gwasanaethau-digidol/gwasanaethau-tg/cymorth/
Diolch yn fawr am eich cydweithrediad a’ch dealltwriaeth.
Y Gwasanaethau Digidol.