Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd fersiwn gychwynnol o’ch amserlen yn cael ei rhyddhau (7 wythnos yn gynt na’r llynedd!). Byddwn ni’n anfon e-bost atoch pan fydd yr amserlen yn barod.
Ydych chi erioed wedi gofyn i chi’ch hun sut mae eich amserlen yn y Brifysgol yn dod ynghyd? Y tu ôl i’r llenni, mae’n jig-so mawr – ac nid yw dod â’r darnau ynghyd yn dasg hawdd o gwbl.
Dysgwch sut rydyn ni’n creu’r amserlen ar gyfer dros 20,000 o fyfyrwyr, 7,000 o fodiwlau, 2,000 o staff academaidd, degau o dechnegwyr ar draws tri champws, mewn 350 o fannau addysgu – pob un â’i adeiladau, ei ystafelloedd dosbarth a’i labordai arbenigol unigryw.
Fel y gallwch weld, y tu ôl i bob amserlen, mae darlun ehangach.
Rydyn ni’n gwrando ar eich adborth, rydyn ni’n darllen pob sylw ynghylch amserlennu. Dyna sut rydyn ni’n deall pam mae’n well gan rai myfyrwyr fod sesiynau addysgu wedi’u gwasgaru drwy’r amserlen, tra mae rhai eraill yn ffafrio amserlenni addysgu mewn bloc. Gobeithiwn fod yr eglurhad hwn o’r broses amserlennu yn eich galluogi i werthfawrogi pa ffactorau sy’n effeithio ar y broses o greu amserlen, a pham efallai mae eich amserlen wedi cael ei threfnu mewn ffordd benodol.
Cadwch lygad am e-bost a fydd yn cynnwys fersiwn gychwynnol o’ch amserlen yn fuan.
Am ragor o wybodaeth ynghylch creu amserlenni. Os oes gennych gwestiynau neu ymholiadau, cysylltwch â Thimau Gwybodaeth eich Cyfadran.
Amserlennu Academaidd,
Y Gwasanaethau Addysg.