Diolch i bawb a gymerodd yr amser i rannu eich barn yn Ymgyrch Arolwg Mawr Abertawe eleni, gan gynnwys yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS). Byddwn ni’n defnyddio eich adborth i wneud gwahaniaeth go iawn yn y flwyddyn academaidd o’n blaenau.

Mae ein Harolygon Profiad Myfyrwyr mor bwysig i’n helpu i ddeall eich profiad a chynllunio gwelliannau ystyrlon ar bob lefel astudio.

Rydyn ni’n falch o ddweud bod 86% o fyfyrwyr Abertawe a ymatebodd i’r arolygon yn fodlon ar eu cwrs yn gyffredinol, o’i chymharu â chanran y llynedd, sef 84%, a gwelir gwelliannau cadarnhaol ym mhob maes ers 2024. Mae hynny o ganlyniad i’ch mewnbwn chi a gwaith caled staff ym mhob rhan o’r Brifysgol.

Yr hyn ddywedoch chi wrthon ni

Roedd eich ymatebion yn gadarnhaol iawn yn y meysydd canlynol:

  • Adnoddau dysgu
  • Trefnu a rheoli
  • Cyfleoedd dysgu  

Gwelwyd gwelliannau gwych hefyd mewn meysydd megis asesu, addysgu a llais y myfyrwyr, a byddwn ni’n gweithio’n galed i barhau i adeiladu ar hynny.

Beth sy’n digwydd nesaf 

Rydyn ni’n falch bod cynifer ohonoch chi o’r farn ein bod yn gwella ein profiad i fyfyrwyr, ond rydyn ni’n gwybod bod rhagor i’w wneud o hyd. Rydyn ni eisoes yn gweithio ar eich awgrymiadau, a byddwn ni’n parhau i wrando, gan wella ein ffyrdd o ddangos i chi sut caiff eich adborth ei ddefnyddio.

Byddwn ni’n cysylltu â chi drwy gydol y flwyddyn academaidd ynghylch y newidiadau rydyn ni’n eu rhoi ar waith ac yn gofyn i chi ein helpu!

Cadwch rannu eich syniadau

Does dim angen aros am arolwg i leisio eich barn. Gallwch chi:

  • Rhoi adborth drwy eich cwrs neu’ch Cyfadran
  • Mynd i hello.swansea_union.co.uk i gynnig adborth

Mae eich llais yn dylanwadu ar eich Prifysgol, diolch am ein helpu i’w gwneud yn well, gyda’n gilydd!