Mae’r neges ganlynol ar gyfer myfyrwyr sy’n sefyll arholiadau ffurfiol yn ystod cyfnod asesu mis Awst 2025 yn unig.
Mae fersiwn bersonol o’th amserlen arholiadau mis Awst 2025 bellach ar gael drwy’r fewnrwyd.
I weld dy amserlen:
- Mewngofnoda i’th gyfrif.
- Dewisa’r eicon ‘Mewnrwyd’.
- Dylai dolen i’th amserlen arholiadau fod ar gael ar dy broffil Cofnod Myfyriwr (o dan dy ffotograff).
Darllena dy amserlen yn ofalus er mwyn sicrhau bod yr holl arholiadau rwyt ti’n disgwyl eu sefyll wedi’u rhestru.
Os oes gennyt unrhyw anawsterau gweld dy amserlen arholiadau neu os wyt ti’n credu bod dy amserlen yn anghywir, cysyllta â’r Swyddfa Arholiadau cyn gynted â phosib. Bydd aelod o’r tîm yn gallu dy gynorthwyo.
Cyfarwyddiadau'r Arholiad
Mae’n ofynnol i’r holl fyfyrwyr ymgyfarwyddo â’r cyfarwyddiadau canlynol cyn sefyll arholiadau ar y safle.
Llety
Eleni, bydd llety ar gael ar Gampws y Bae i fyfyrwyr sy’n ailsefyll arholiadau. Os hoffech chi gadw lle, bydd angen i chi gwblhau’r ffurflen gais am lety o leiaf 7 niwrnod cyn rydych chi’n bwriadu cyrraedd.
Manylion
-
Cost: £35.00 y noson (mae hyn yn cynnwys dillad gwely a thywelion).
-
Cyfleusterau: Mynediad at gyfleusterau cegin (sylwer: ni ddarperir llestri nac offer cegin).
-
Parcio: Nid oes parcio ar gael. Bydd angen i fyfyrwyr ddefnyddio’r cyfleuster Parcio a Theithio os ydyn nhw’n dod â char.
Dylech gwblhau’r ffurflen gais am lety o flaen llaw. Caiff llety ei neilltuo pan fyddwch chi’n cyrraedd.
Amgylchiadau Esgusodol
Os nad ydych yn gallu sefyll asesiad (a ohiriwyd neu’n atodol) yn ystod cyfnod asesu mis Awst, ni fyddwch yn gallu gohirio’r asesiad. Sylwer, fodd bynnag, y byddai’n fanteisiol i chi hysbysu’ch Ysgol/Cyfadran am eich amgylchiadau esgusodol cyn gynted â phosib o hyd, cyn pob asesiad y byddai’r amgylchiadau esgusodol yn effeithio arno neu o fewn 5 niwrnod gwaith iddo gael ei gynnal gan y gellir cyflwyno’r wybodaeth hon i’r Bwrdd Arholi ym mis Medi. Bydd eich Ysgol/Cyfadran yn darparu ffurflen ddatgan i chi ei chwblhau a’i dychwelyd i’r Ysgol/Cyfadran erbyn y dyddiad a nodir.
Ni fyddwch yn derbyn canlyniad yn syth ar ôl i chi gyflwyno ffurflen ddatgan, y Bwrdd Arholi fydd yn penderfynu ar eich cynnydd/dyfarniad ym mis Medi, ar ôl iddo ystyried eich amgylchiadau esgusodol ac yn unol â’ch perfformiad academaidd cyffredinol.
Gwybodaeth Gyffredinol am Arholiadau
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am ymholiadau, gweler tudalennau’r Swyddfa Arholiadau, sy’n cynnwys gwybodaeth am yr hyn y dylech ei wneud ac na ddylech ei wneud yn ystod eich arholiadau, lleoliadau arholiadau a chwestiynau cyffredin. Hoffem achub ar y cyfle hwn hefyd i ddymuno pob lwc i chi yn eich asesiadau a’ch arholiadau!
Y Swyddfa Arholiadau,
Gwasanaethau Addysg.