Prosiect Adnewyddu’r Rhwydwaith – Tŷ Fulton Rhwng 8am a 5pm, 2 i 4 Medi, bydd systemau a dyfeisiau rhwydweithiol Tŷ Fulton yn cael eu symud i’r rhwydwaith newydd. Bydd adegau o darfu ar wasanaethau Wi-Fi, mynediad i’r Rhyngrwyd a rhwydwaith y campws yn ystod y cyfnod hwn. Sylwer: Ni fydd y gweithgareddau hyn yn effeithio ar gyfleusterau arlwyo a siopau masnachol Tŷ Fulton. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir gan y gwaith hanfodol hwn. Tîm Sylfeini Digidol |