Rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r rhai ohonoch sydd wedi bod ar wyliau’r haf yn ôl ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd. Wrth i chi baratoi i ddychwelyd, cymerwch sylw o’r wybodaeth allweddol ganlynol i sicrhau dechrau llyfn i’ch tymor.
Cofrestru
Mae’n angenrheidiol bod pob myfyriwr yn cofrestru ar ddechrau pob blwyddyn academaidd newydd. Byddwch yn derbyn e-bost pan ddaw’n amser i gofrestru, fodd bynnag gallwch ddod o hyd i’r dyddiadau cofrestru ac addysgu perthnasol ar ein tudalennau gwe.
Cardiau Adnabod Myfyrwyr
Nid oes angen i fyfyrwyr sy’n dychwelyd gasglu cerdyn adnabod newydd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dod â’ch cerdyn presennol gyda chi pan fyddwch chi’n cyrraedd y campws.
Cyfathrebiadau o’ch Cyfadran
Bydd diweddariadau pwysig ynglŷn â gweithgareddau croeso yn ôl ac addysgu yn cael eu rhannu gan eich Cyfadran trwy Hybiau Canvas ac e-bost y Brifysgol. Rydym yn eich annog i wirio’r ddau yn rheolaidd yn y cyfnod cyn y tymor.
Gallwch ddod o hyd i’ch amserlen addysgu ar ein tudalennau gwe.
Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae eich amserlen brifysgol yn dod at ei gilydd? Efallai ei fod yn teimlo’n hudol, ond y tu ôl i’r llenni, mae’n sialens enfawr – ac nid tasg hawdd yw ddod a’r darnau at ei gilydd. Dysgwch sut rydym yn amserlennu 22,000 o amserlenni unigryw.
Newidiadau i Ddesgiau Gwybodaeth y Gyfadran a lansiad Hwb
Fel y cyfathrebwyd y tymor diwethaf, mae’r ffordd yr ydych yn mynedu gwybodaeth wedi newid dros yr haf, ac mae MyUniHub a thimau Gwybodaeth Myfyrwyr y Gyfadran bellach wedi uno i un gwasanaeth syml, sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr.
Yn lansio ar 1af Medi, gallwch gysylltu â Hwb neu ymweld â’n cronfa wybodaeth am y canlynol:
- Cofrestru
- Dosbarthu cardiau adnabod
- Cyllid a ffioedd myfyrwyr
- Ymholiadau am gyrsiau a rhaglenni
- Asesu ac arholiadau
- Ymholiadau anabledd a lles
- Llythyrau a ffurflenni myfyrwyr
Dymunwn y gorau i chi gyda’r flwyddyn academaidd newydd o’n blaenau ac edrychwn ymlaen at eich gweld chi ar y campws!