Mae eich gwasanaeth Hwb newydd sbon bellach yn fyw, ac rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi!

 

Mae’r ffordd rydych chi’n cael mynediad at wybodaeth wedi newid dros gyfnod yr haf, ac mae MyUniHub a thimau Gwybodaeth Myfyrwyr y Cyfadrannau bellach wedi uno i greu un gwasanaeth syml, sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr.

Hwb yw eich canolfan ar gyfer popeth sy’n ymwneud â bywyd myfyrwyr, p’un a oes angen help arnoch gyda’ch cofnod myfyriwr, asesiad, trefnu apwyntiadau, neu i gasglu’ch cerdyn adnabod, gall Hwb eich helpu ar-lein neu yn bersonol.

Mynediad i Hwb ar-lein

Gallwch gael mynediad i Hwb ar-lein drwy ein Cronfa Wybodaeth lle gallwch ddod o hyd i atebion i gwestiynau cyffredin. Os oes angen ychydig mwy o help arnoch gyda’ch ymholiad, gallwch gysylltu â’r Ddesg Gwasanaeth, sy’n eich galluogi chi i olrhain cynnydd eich ymholiad.

Dyma rai o’r materion gallwn gynnig help yn eu cylch:

  • Cofrestru
  • Dosbarthu Cardiau Adnabod
  • Cyllid Myfyrwyr a ffïoedd
  • Ymholiadau am gyrsiau a rhaglenni
  • Asesiadau ac arholiadau
  • Ymholiadau am anabledd a lles
  • Llythyrau a ffurflenni myfyrwyr

Ymweld â Hwb

Gallwch hefyd siarad ag aelod o’r tîm yn y lleoliadau canlynol rhwng 8.30am a 5pm:

  • Llawr gwaelod Adeilad Canolog Peirianneg, Campws y Bae
  • Llawr gwaelod Y Techniwm Digidol, Campws Parc Singleton

Sylwer: mae MyUniHub a Desgiau Gwybodaeth y Cyfadrannau bellach ar gau ac mae lleoliadau newydd os hoffech siarad ag aelod o’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd.

Yn dilyn lansio’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd newydd y flwyddyn academaidd ddiwethaf, gallwch alw heibio i weld y tîm rhwng 9am a 4pm ym Mloc Stablau Yr Abaty, Campws Parc Singleton, neu Hyb Cyflogadwyedd yr Ysgol Reolaeth (adeilad yr Atriwm), Campws y Bae.

Sut gall Hwb eich helpu chi

Am ragor o wybodaeth am sut y gallwn eich helpu, ewch i’n tudalennau gwe. Hwb fydd eich cyswllt cyntaf i gael cyngor, cymorth, a’ch rhoi ar y trywydd cywir, does dim cwestiwn yn rhy fawr nac yn rhy fach!