🎉🌍 Rhaglen Croeso Rhyngwladol GO!
Mae’r digwyddiadau hyn wedi’u cynllunio i’ch helpu i sefydlu eich hun yn Abertawe, cyfarfod ffrindiau newydd, a mwynhau’ch amser yma yn Prifysgol Abertawe. P’un a ydych chi’n fyfyriwr newydd wedi cofrestru neu jyst eisiau cymryd rhan, mae rhywbeth i bawb!
Dewchi ymuno â’r hwyl, cysylltu â chymuned Abertawe, a chael amser anhygoel yma yn Abertawe!💙✨
Dyma gipolwg ar rai o’n digwyddiadau sydd i ddod:
Digwyddiadau Mis Medi
Dydd Mercher 10 Medi – GO! Cwis Tafarn
Dydd Mercher 17 Medi – GO! Llwybr Trésor
Dydd Mawrth 23 Medi – GO! Picnic yn y Parc
Dydd Mercher 24 Medi – GO! Archwilio Abertawe
Dydd Iau 25 Medi – GO! Traeth ar y Bae
Dydd Llun 29 Medi – GO! Brecwast Croeso
Digwyddiadau Mis Hydref
Dydd Mercher 1 Hydref – GO! Archwilio Abertawe
Dydd Sadwrn 4 Hydref – GO! Trip Caerdydd
Dydd Llun 6 Hydref – GO! Brecwast Croeso
Dydd Mercher 8 Hydref – GO! Ystafell Ddianc
Dydd Llun 13 Hydref – GO! Celf a Chrefft
Dydd Mawrth 14 Hydref – GO! Desi Swaag
Dydd Iau 16 Hydref – GO! Coffi a Sgwrs
Dydd Llun 20 Hydref – GO! Celf a Chrefft
Dydd Iau 23 Hydref – GO! Coffi a Sgwrs
Dydd Sadwrn 31 Hydref – GO! Bryste
🌍 Caffi Iaith
Ydych chi’n awyddus i ddysgu ieithoedd newydd neu ymarfer y rhai sydd gennych eisoes? Dewch draw i’n Caffi Iaith a ymarfer siarad mewn amgylchedd cyfeillgar a thawel. Bydd ein Harweinwyr Iaith yn arwain sgyrsiau, rhannu awgrymiadau, ac yn rhannu ymadroddion defnyddiol i’ch helpu i deimlo’n hyderus mewn sefyllfaoedd go iawn.
P’un a ydych am wella’ch sgiliau, cyfarfod pobl newydd, neu jyst mwynhau sgwrsio mewn ieithoedd gwahanol, mae’r caffi yn lle perffaith i gysylltu. Dim angen unrhyw brofiad – dim ond chwilfrydedd a gwên! 😄
📅 Bob Dydd Mercher
🕐 1–2yp
📍 Global Lounge, Campws Singleton
Diwrnodau Croeso Rhyngwladol
Dewch draw i gwrdd â’r tîm GO! a myfyrwyr rhyngwladol eraill. Bydd cyfle i sgwrsio dros baned o de, archebu tocynnau ar ein teithiau, a mwynhau gweithgareddau anffurfiol hwyliog. Mae’r diwrnod yn dechrau am 11am.
Bydd raffl hefyd i ennill gwobr! I ymuno, gwnewch yn siŵr eich bod wedi mewngofnodi gydag un o’n gwirfoddolwyr a fydd wedi’u lleoli ar flaen yr adeilad pan fyddwch chi’n cyrraedd ein diwrnodau croeso!
Mae dau ddigwyddiad y gallwch eu mynychu:
- Lolfa Fyd-eang ar Gampws Singleton – 27 Medi
- Y Twyni ar Gampws y Bae – 11 Hydref
I archebu, cwblhewch holiadur ar gyfer y digwyddiad yr hoffech ei fynychu isod:
Gwirfoddoli gyda GO!
Ydych chi moen gwirfoddoli gyda ni a helpu i redeg ein digwyddiadau?
Buddion gwirfoddoli gyda ni:
- Cyfle i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a gwella’r CV
- Gwneud gwahaniaeth go iawn i brofiad myfyrwyr eraill Prifysgol Abertawe
- Mynediad am ddim neu gyda disgownt i lawer o ddigwyddiadau rhyngwladol a chymdeithasol eraill ar y campws ac oddi arno
- Cyfle i ddatblygu sgiliau mewn meysydd megis Ymwybyddiaeth Ddiwylliannol a Chynllunio Digwyddiadau
- Bod yn rhan weithredol o gymuned ehangach y brifysgol
- Cwrdd â ffrindiau a phobl newydd o bedwar ban y byd
- Rhoi cynnig ar rywbeth newydd!
Ymgeisiwch yma: https://volunteering.discoverysvs.org/volunteers/opportunity/10193151