Bydd Llyfrgell Parc Singleton yn parhau i fod ar gau am weddill y dydd tra bod gwaith brys yn digwydd yn dilyn difrod a achoswyd gan wyntoedd cryfion diweddar. Byddwch yn ymwybodol bod mynediad yn yr ardal hon wedi’i gyfyngu dros dro.
I symud rhwng y Technium Digidol a Kier Hardie, defnyddiwch y llwybr y tu ôl i adeilad Taliesin.
Mae Llyfrgell Campws y Bae yn parhau i fod ar agor, a gallwch gael mynediad at leoedd astudio eraill ar Gampws Parc Singleton.
Ymddiheurwn am yr aflonyddwch
Diweddariad:
Bydd llyfrgell Campws Singleton ar agor o 8yb ar y 16eg o Fedi. Ymddiheurwn am unrhyw amhariad.