P’un a ydych chi’n fyfyriwr newydd neu un sy’n dychwelyd, rydyn ni am eich cefnogi drwy gydol eich amser yn y brifysgol.

  • Yn eich helpu i feithrin eich sgiliau llenyddol gwybodaeth a sgiliau sy’n seiliedig ar gasgliadau.
  • Rhoi mynediad at gynnwys ysgolheigaidd.
  • Yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio yn ein llyfrgelloedd ffisegol.

 Gallwch ddod o hyd i ganllawiau i’n gwasanaethau a thiwtorialau ar-lein drwy ein tudalennau gwe neu ddefnyddio ein sgwrsfot 24/7 i gael mynediad at yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Gallwch gysylltu â ni yn llyfrgell@abertawe.ac.uk neu siarad â ni yn bersonol wrth ein desgiau gwybodaeth sydd wedi’u lleoli yn neuaddau canolog llyfrgelloedd Singleton a’r Bae o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am hyd 5pm.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn ein dilyn ni ar Instagram @llyfrgellprifabertawe am y diweddaraf ar ein hadnoddau, digwyddiadau ac arddangosfeydd.

Hefyd mae blog gennym sy’n cynnwys ymgyrchoedd i dynnu sylw at adnoddau’r llyfrgell. Dilynwch ni nawr am ddiweddariadau, gan gynnwys ein postiadau 5 Niwrnod o’r Llyfrgell a fydd yn ymddangos yr wythnos nesaf.

Byddwn yn postio bob yn rheolaidd, gan dynnu sylw at adnoddau diddorol sydd gan y llyfrgell i’w cynnig. I ddod i hyd i’r adnoddau hyn yn rhwydd nawr, ewch i’n tudalen we Llyfrgelloedd a Chasgliadau ddiwygiedig.

Am y tro, edrycha ar ein Canllaw Llyfrgell ar gyfer ‘Dechrau arni gyda’r Llyfrgell‘ – man cychwyn defnyddiol, wedi’i gynllunio i’th helpu i:

  • Ddefnyddio ein mannau ffisegol a digidol
  • Deall sut i ddefnyddio prif offeryn chwilio’r llyfrgell (iFind)
  • Dod o hyd i adnoddau sy’n benodol i’r pwnc
  • Cael cymorth pan fydd ei angen arnat

Gobeithiwn y cei di sesiwn sefydlu wych ac mae’n bleser gennym dy groesawu i’r llyfrgell.