Rydyn ni’n ymrwymedig i wella profiad y myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe, ac rydyn ni’n credu bod monitro dy bresenoldeb a dy gyfranogiad yn gallu ein helpu i sicrhau dy les a’th gynorthwyo wrth symud ymlaen a chyflawni dy nodau academaidd.
Disgwylir i bob myfyriwr gyfranogi mewn dysgu wyneb yn wyneb. Bydd angen i fyfyrwyr na allan nhw gyfranogi mewn dysgu wyneb yn wyneb ystyried gohirio eu hastudiaethau neu eu hatal dros dro. Disgwylir i fyfyrwyr fyw o fewn pellter cymudo i Abertawe i’w galluogi i fynychu’r Brifysgol yn ystod oriau gwaith craidd yn unol â gofynion eu hamserlen.
Sut caiff dy bresenoldeb a dy gyfranogiad ei fonitro yn ystod blwyddyn academaidd 25/26
Mae cydberthynas rhwng ymrwymiad a pherfformiad. Golyga hyn po fwyaf y byddi di’n ymrwymo i’th astudiaethau, y gorau y byddi di’n cyflawni.
Caiff dy gyfranogiad ei fonitro’n bennaf drwy sesiynau dysgu wyneb yn wyneb a drefnwyd a’th ddefnydd o ddeunyddiau cwrs yn Canvas. Os wyt ti’n dal fisa drwy’r Llwybr Myfyrwyr, caiff dy gyfranogiad ei fonitro drwy dy bresenoldeb mewn sesiynau dysgu wyneb yn wyneb yn unig, o ganlyniad i ofynion y Swyddfa Gartref (Fisâu a Mewnfudo y DU). Bydd presenoldeb mewn cyrsiau proffesiynol penodol yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd hefyd yn cael ei fonitro mewn sesiynau dysgu wyneb yn wyneb yn unig o ganlyniad i ofynion y cyrsiau. Byddwch yn cael eich hysbysu ar ddechrau eich cwrs gan staff academaidd os yw hyn yn berthnasol i chi.
Os wyt ti’n fyfyriwr cartref (DU) ac yn derbyn Cyllid Myfyrwyr, mae’n ofynnol i ti ymrwymo i’th astudiaethau ar gyfer dy ffioedd dysgu a’th fenthyciad cynhaliaeth ac mae’n ofynnol i’r Brifysgol adrodd am unrhyw ddiffyg presenoldeb i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.
Bydd angen i ti dapio dy gerdyn myfyriwr yn erbyn y darllenwyr sydd ar gael ym mhob ystafell addysgu wrth gyrraedd i gadarnhau dy bresenoldeb yn y sesiwn. Dylet roi gwybod i dy Gyfadran os wyt ti’n cael problemau gyda’th gerdyn/darllenydd.
Sylwer os nad wyt ti’n mynychu dy ddosbarthiadau wyneb yn wyneb, gall hyn arwain at gais i ti atal dy astudiaethau dros dro, yn dilyn cyfle i drafod hyn â dy Gyfadran.
Mae hyn oherwydd dy fod yn cael mynediad at ddysgu’n bennaf drwy fynd i’th ddarlithoedd a’th seminarau ar y campws a dyma’r ffordd orau o sicrhau dy fod ti’n manteisio i’r eithaf ar dy astudiaethau a’th brofiad yn y Brifysgol. Mae’r deunydd cwrs a ddarperir yn Canvas yn rhoi cymorth ychwanegol ar gyfer sesiynau a gollwyd ond nid yw’n disodli’r cyfleoedd dysgu gwerthfawr sydd ar gael i ti mewn darlithoedd a seminarau ar y campws.
Mae ein Ap Fy Nghyfranogiad cyfleus yn dy alluogi i weld dy ddata cyfranogiad cyffredinol i’th helpu i aros ar y trywydd iawn.
Ceir rhagor o wybodaeth am y broses monitro cyfranogiad a’i hystyr i ti ar dudalennau Monitro Cyfranogiad Hwb.
Os nad wyt ti’n sweipio dy gerdyn myfyriwr i gadarnhau dy bresenoldeb mewn sesiynau dysgu wyneb yn wyneb, neu os nad wyt ti’n cyfranogi’n ddigonol, bydd dy Gyfadran/Ysgol yn cysylltu â thi i gynnig help.
Mae polisi’r Brifysgol ynghylch monitro cyfranogiad myfyrwyr a addysgir ar gael yma.
Y Tîm Monitro Presenoldeb