wnewch gais nawr. Mae ceisiadau Cynrychiolwyr Academaidd ar gyfer 2025-26 ar agor yn swyddogol!

 

Mae’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn chwilio am Gynrychiolwyr Pwnc ar gyfer blwyddyn academaidd 25/26, a hoffem eich gwahodd i gymryd rhan!

 

Felly, beth mae Cynrychiolydd Myfyrwyr yn ei wneud?

 Yn syml, Cynrychiolwyr Academaidd yw’r ddolen rhyngoch chi a’ch Ysgol. Maen nhw yma i gasglu eich adborth, cyfleu eich barn i’r Brifysgol a gweithio gyda staff i wneud gwelliannau i’ch addysg.

Nid yw hynny’n golygu na all pob myfyriwr fynd at eu darlithwyr neu staff y Gyfadran os oes ganddynt broblem neu awgrym, fodd bynnag, mae Cynrychiolwyr Myfyrwyr yn eistedd ar bwyllgorau’r Brifysgol felly gallant fynd â’ch adborth yn uniongyrchol at staff a gweithio ar atebion i wella’ch profiad.

 Mae pob Cynrychiolydd yn derbyn hyfforddiant a’r cyfle i fynychu gweithdai arbenigol. Nid yn unig y mae’n wych ar gyfer eich CV, ond mae hefyd yn rôl werth chweil iawn!

Merch yn dangos gwisg 'Rep' i'r camera

Ydy hyn yn swnio fel rhywbeth y byddech chi’n dda ynddo?

Mae gwneud cais yn hawdd iawn ac yn gyflym iawn, y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw cwblhau’r ffurflen Mynegi Diddordeb ar wefan Undeb y Myfyrwyr a rhoi gwybod i ni pam rydych chi’n meddwl y byddech chi’n Gynrychiolydd da!

Gallwch ddod o hyd i’r ffurflen ar y dudalen we hon: Academic Reps