Adeiladau ein llyfrgelloedd

Fel llyfrgell ddigidol yn gyntaf, mae ein casgliadau a’n gwasanaethau ar-lein bob amser ar gael pryd bynnag y mae eu hangen arnoch a ble bynnag yr ydych chi, ond fel myfyriwr Prifysgol Abertawe mae gennych hefyd fynediad at nifer o lyfrgelloedd ffisegol ar ein campysau. Mae pob un yn cynnig adnoddau, mannau astudio, a chyfleusterau TG i ategu’ch astudiaethau. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Llyfrgell Parc Singleton
  • Llyfrgell Campws y Bae
  • Llyfrgell Parc Dewi Sant

Rydyn ni’n teilwra’r oriau ym mhob lleoliad yn seiliedig ar sut rydych chi’n defnyddio’r llyfrgell honno, felly gallwn eu hymestyn yn ystod cyfnodau arholiadau neu eu lleihau yn ystod y gwyliau.

Gallwch ddod o hyd i fanylion am yr oriau y mae pob llyfrgell ar agor a phryd bydd staff yno wrth Ddesgiau Gwybodaeth y Llyfrgell, yma: Lleoliadau ac Oriau Agor.

Myfyrwr yn y llyfrgell

Rydym hefyd yn darparu cyfleusterau i’ch helpu i gael y profiad astudio gorau mewn lleoliadau allweddol gan gynnwys:

  • Ceginau myfyrwyr â ffynhonnau dŵr, boeleri hydro ar gyfer dŵr poeth, peiriannau gwerthu a mwy
  • Gemau a phosau ar gyfer seibiant o astudio
  • Blancedi i’w benthyca ar ddiwrnodau oer

Gallwch edrych ar ein Canllaw Dechrau Arni gyda’r Llyfrgell, sgwrsio â ni neu ddod i gwrdd â ni wyneb yn wyneb wrth Ddesgiau Gwybodaeth y Llyfrgell yn ystod oriau staffio os oes gennych ymholiadau