Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe – paid â cholli allan, archeba’n gynnar!
Mae Gŵyl Gwyddoniaeth Abertawe’n ôl yn ystod hanner tymor mis Hydref! ✨
P’un a wyt ti’n chwilio am arbrofion ymarferol, gweithdai, neu hwyl gyda ffrindiau, mae rhywbeth at ddant pawb.
📅 Penwythnos yr ŵyl: Dydd Sadwrn 25 & Dydd Sul 26 Hydref, 10am – 4pm
📍 Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe

Bydd llwyth i’w ddarganfod, o weithgareddau cost isel i sesiynau rhyngweithiol a gweithgareddau galw heibio am ddim, i gyd wedi’u cynllunio i ysbrydoli syniadau, chwilfrydedd a hwyl.
⭐ Uchafbwyntiau’n cynnwys:
- Hamza Yassin – dyn camera bywyd gwyllt ac enillydd Strictly yn rhannu ei anturiaethau anhygoel 🦅
- Swigod a balwns – gwyddoniaeth swigod ffrwydrol i’r teulu cyfan 🫧
- Arwyr Gwyddoniaeth – darganfod yr arwyr go iawn y tu ôl i’r gwyddoniaeth 🦸♀️
- Glow with the Flow – arbrofion goleuol sy’n gwneud i’r llwyfan ddisgleirio ✨
- Explorer Dome – arddangosiadau mentrus gyda iâ sych a nitrogen hylifol
Gyda thocynnau sioe o ddim ond £3.50 y person, ynghyd â rhaglen enfawr o arddangosfeydd a gweithgareddau AM DDIM, dyma’r diwrnod allan perffaith i’r teulu cyfan yr hanner tymor hwn.
📲 Archwilia’r rhaglen lawn a chadwa lan gyda’r wybodaeth ddiweddaraf drwy ymuno â’n Tudalen Digwyddiad Facebook.