Dywedodd eich adborth wrthym eich bod eisiau canllawiau clir, cyson ar sut y gellir defnyddio deallusrwydd artiffisial yn eich astudiaethau.
Gan ystyried hyn, rydym wedi datblygu Fframwaith ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol sy’n cynnwys yr holl wybodaeth, adnoddau ac offer ymarferol allweddol sydd angen arnoch mewn un lle.
Beth yw’r fframwaith?
- Mae’r fframwaith newydd yn nodi gwerthoedd ac egwyddorion Prifysgol Abertawe ar gyfer defnyddio deallusrwydd artiffisial.
- Mae’n darparu safonau a disgwyliadau gofynnol ar gyfer myfyrwyr, staff, ymchwilwyr a phartneriaid
- Mae’n eich helpu i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn ddiogel, yn foesegol ac yn hyderus
- Mae’n cyd-fynd ag arfer gorau cenedlaethol a byd-eang
- Mae’r dull ‘Un Brifysgol’ hwn yn golygu bod gan bawb yr un canllawiau clir ar sut olwg sydd ar ddefnydd o deallusrwydd artiffisial yn Abertawe
Gallwch bori’r Fframwaith a defnyddio’r adnoddau ar ein tudalennau gwe pwrpasol.