Mae Harbwr a Nanhyfer (llawr gwaelod) nawr ar agor 24 awr y dydd! Mae’r lleoliadau hyn ar Gampws Singleton a Champws y Bae yn cynnig amgylchedd astudio diogel a chyfforddus i holl fyfyrwyr. Mae Harbwr a Nanhyfer yn darparu gofod pwrpasol i fyfyrwyr sy’n adlewyrchu’r angen am fannau astudio 24 awr y dydd yn well. Gall yr holl fyfyrwyr wneud y gorau o’r mannau hyn ar unwaith!
Oriau agor estynedig y Llyfrgelloedd
O ddechrau’r tymor bydd Llyfrgelloedd Parc Singleton a Champws y Bae yn estyn eu horiau agor. Mae ein horiau hirach wedi’u cynllunio i gyd-fynd â’r amserau pan fo’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn defnyddio ein mannau a bydd Harbwr a Nanhyfer, sydd bellach ar agor 24 awr y dydd, yn darparu ar gyfer y rhai sydd eisiau gorffen yn hwyrach neu ddechrau’n gynharach.
O fis Hydref ymlaen (am gyfnod Semester 1):
- Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 12am (canol nos)
- Dydd Sadwrn i ddydd Sul, 12pm (canol dydd) tan 8pm
Bydd staff ar ddesgiau gwybodaeth y llyfrgelloedd:
- Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am-5pm
Am ragor o wybodaeth am oriau agor, cynlluniau ar gyfer cyfnodau asesu, ac oriau dros y gwyliau, ewch i’n tudalennau gwe.
Fel mesur diogelwch ychwanegol, argymhellir eich bod yn lawrlwytho’r ap SafeZone er mwyn cysylltu’n hawdd â’n Tîm Diogelwch ac Ymateb y Campws sydd ar y campws 24 awr y dydd bob dydd o’r wythnos. Sylwer, o 11pm, mae Harbwr ar agor fel gofod i fyfyrwyr yn unig – ni fydd gwasanaethau arlwyo ar gael ar ôl 8pm a bydd rhannau eraill o Dŷ Fulton ar gau.
Ein prif flaenoriaeth yw canolbwyntio ein gwasanaethau, ein hymdrechion a’n hadnoddau ar y materion sydd bwysicaf i chi. Dyna pam rydyn ni’n sicrhau bod gennych chi fynediad di-dor at ein canllawiau ar-lein, yn ogystal â thros filiwn o adnoddau, gyda chymorth wyneb yn wyneb ar gael pan fo’r galw ar ei fwyaf.
Mae’r newidiadau hyn yn rhan o’n hymrwymiad parhaus i wrando ar fyfyrwyr a darparu mannau sy’n diwallu’ch anghenion. Mae addasrwydd y llefydd astudio eu hun yn cael ei dreialu, a byddwn yn parhau i arolygu eu defnydd ac adborth gan fyfyrwyr, yn gyfochrog a’ch Undeb Myfyrwyr.
Os oes gennych gwestiynau, ymholiadau neu adborth, cysylltwch â Llyfrgelloedd a Chasgliadau.
Gwasanaethau Addysg