Fe’ch gwahoddir i’r Ffair Yrfaoedd. Eich cyfle i gwrdd â’r cyflogwyr gorau, darganfod cyfleoedd cyffrous, a chael ysbrydoliaeth am eich llwybr gyrfa yn y dyfodol.

Gall myfyrwyr a graddedigion Abertawe ymuno â ni ddydd Mawrth 14 (Campws Singleton) a dydd Mercher 15 Hydref (Campws y Bae) ynghyd ag ystod eang o gyflogwyr.

Yn y Ffair gallwch chi:


– Gwrdd â chyflogwyr o ystod eang o ddiwydiannau.
– Dysgu am interniaethau, rolau graddedig, a chyfleoedd profiad gwaith.
– Cael awgrymiadau a chyngor yn uniongyrchol gan recriwtwyr
– rhwydweithio ac archwilio llwybrau gyrfa efallai na fyddwch wedi eu hystyried.
– Eleni, byddwch chi’n cael y cyfle i gymryd rhan mewn ffug gyfweliadau gyda chyflogwyr i fireinio eich sgiliau a chael adborth gwerthfawr!

Hefyd, bydd Deloitte yn ymuno â ni yn yr Ysgol Reolaeth ddydd Mercher 15 Hydref, peidiwch â cholli’r cyfle i gwrdd â nhw!


Dyma gyfle gwych, p’un a ydych chi’n dechrau archwilio opsiynau neu’n chwilio am eich cam nesaf.

Cofrestrwch heddiw!

Dydd Mawrth 14 (Campws Singleton)
Dydd Mercher 15 Hydref (Campws y Bae)

Edrychwn ymlaen at eich gweld yno.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
Bywyd Myfyriwr