Rydyn ni’n gobeithio eich bod chi’n ymgartrefu yn eich bywyd prifysgol ac yn dod o hyd i’ch ffordd o gwmpas. Mae popeth sydd angen i chi ei wybod am deithio o gwmpas y dref ar wefan y hwb.

Rydyn ni eisiau sicrhau bod teithio o gwmpas Abertawe’n syml, yn ddiogel ac yn gynaliadwy i bob myfyriwr, felly rydyn ni wedi trefnu digon o ffyrdd i’ch cefnogi’r tymor hwn! O atgyweiriadau beiciau am ddim i rannu eich barn am fysiau a beicio yn Abertawe, dyma restr o ddigwyddiadau y gallwch gymryd rhan ynddyn nhw’r tymor hwn:

Sioe Ffordd Feicio’r Big Switch On

Ymunwch â ni am farcio beiciau AM DDIM gyda Bike Register, a chewch oleuadau a chloi ar gyfer eich teithiau beicio o gwmpas Abertawe. Hefyd, cewch ostyngiadau unigryw a chyngor ar feicio’n ddiogel wrth i’r gaeaf agosáu.

Oeddech chi’n gwybod y gallwch ddefnyddio beiciau Prifysgol Abertawe i deithio o gwmpas y ddinas, gyda hub ar gampws Singleton a Champws y Bae? Cliciwch yma i ddysgu mwy.

Neu os ydych chi’n chwilio am feic eich hun, gallwch gael 15% i ffwrdd ar bryniannau beiciau ac ategolion yn siopau Uprise.

Pryd: Dydd Llun 13eg Hydref, Tu allan i Dŷ Fulton, Campws Singleton, 10am – 3pm

Pryd: Dydd Mawrth 14eg Hydref, Tu allan i’r Ysgol Reolaeth, Campws y Bae, 10am – 3pm

Grwpiau Defnyddwyr Bysiau

Rhannwch eich profiad o’r gwasanaethau bysiau a chyfarfod â First Bus, y Cyngor, a Swyddog Teithio Prifysgol Abertawe i drafod eich syniadau ar gyfer teithio i ac o’r campws ac o gwmpas y ddinas!

Pryd: Dydd Iau 23ain Hydref a Dydd Iau 4ydd Rhagfyr
Lle: Zoom
Amser: 1-2pm

Cysylltwch â’n swyddog teithio i gadw lle yn y Grwpiau Defnyddwyr hyn.

Grwpiau Defnyddwyr Beiciau

Dywedwch eich dweud am gyfleusterau beicio, llwybrau a digwyddiadau ar ac o amgylch y campws, a derbyniwch gyngor ar sut i aros yn ddiogel wrth i’r oriau golau leihau dros y gaeaf.

Pryd: Dydd Mawrth 28ain Hydref a Dydd Mawrth 2il Rhagfyr
Lle: Zoom
Amser: 1-2pm

Cysylltwch â’n swyddog teithio i gadw lle yn y Grwpiau Defnyddwyr hyn.

Arolwg Teithio

Ar ddiwedd y mis, byddwn yn lansio ein harolwg teithio blynyddol. Dyma’ch cyfle i ddweud wrthym am eich profiadau o deithio i ac o’r campws ac o gwmpas y ddinas. Byddwn mewn cysylltiad cyn bo hir gyda’r ddolen i’r arolwg.

Dywedwch wrthym sut rydych chi’n teithio a chynorthwywch i siapio gwelliannau yn y dyfodol i fyfyrwyr a staff.

Bydd yr arolwg teithio’n rhedeg o Ddydd Gwener 31ain Hydref – Dydd Gwener 14eg Tachwedd.

Gweithdai Atgyweirio Beiciau am Ddim

Ym mis Tachwedd byddwn yn cynnal gweithdai atgyweirio am ddim gyda Bikeability. Bydd mwy o fanylion yn dod cyn bo hir.

Pryd: 20fed a 24ain Tachwedd
Amser: 10am – 3pm
Lle: Taliesin, Campws Singleton

P’un a ydych chi’n beicio, yn teithio ar y bws, neu’n dymuno gweld mwy o Abertawe, mae eich mewnbwn yn gwneud gwahaniaeth! Dewch i gymryd rhan y tymor hwn a chynorthwywch i greu cymuned deithio sy’n fwy diogel, gwyrddach ac wedi’i chysylltu’n well.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni – rydyn ni yma i helpu!