Catalog ar-lein yw iFind a gallwch ei ddefnyddio i chwilio am yr holl adnoddau a ddarperir gan lyfrgelloedd Prifysgol Abertawe, gan gynnwys eitemau diriaethol i’w benthyca neu adnoddau ar-lein y gallwch gael mynediad atynt ar y campws ac oddi arno. Gallwch ddod o hyd i lyfrau, e-lyfrau, fideos, erthyglau, cyfryngau digidol a mwy.
Beth sy'n newydd?
Rydym wedi gwneud rhai gwelliannau i system iFind. Bydd y chwiliad awtomatig bellach yn chwilio ar draws y casgliadau diriaethol a digidol yn eu cyfanrwydd, gan gynnwys cynnwys ar lefel erthyglau yn hytrach na theitlau a chrynodebau yn unig.
Byddai dal yn bosib i chi newid y chwiliad i chwilio ar lefel y teitl yn unig drwy ddewis yr hidlydd ‘Llyfrau a Mwy’. Bydd hyn eich galluogi i chwilio drwy ystod ehangach o gynnwys ysgolheigaidd a dod o hyd i adnoddau sy’n fwy perthnasol i’ch ymchwil.
Yn chwilio am rywbeth?
Gallwch chwilio yn iFind yn uniongyrchol o’r bar chwilio ar dudalen hafan y llyfrgelloedd a hidlo eich chwiliadau yn y ffyrdd canlynol:
- Llyfrau a mwy – Adnoddau yn ein llyfrgelloedd, e-lyfrau, cyfnodolion a chronfeydd data ar-lein
- Erthyglau a mwy – Erthyglau cyfnodolion, papurau cynadleddau, erthyglau papurau newydd, cofnodion cyfeirio a llawer mwy
- Cronfa – Cronfa sefydliadol Prifysgol Abertawe
- Popeth – Pob un o’r uchod
I ddod o hyd i lyfr penodol yn gyflym, defnyddiwch enw’r awdur ac un neu ddau o eiriau allweddol o’r teitl. Er enghraifft, i ddod o hyd i “Doing a literature review in Health and social care” gan Helen Aveyard, chwiliwch am ‘Aveyard literature review’.
Awgrymiadau Chwilio
Chwilio am ymadrodd
Chwiliwch am ymadroddion cyflawn drwy roi dyfynodau o’u cwmpas “ “. Bydd geiriau wedi’u hamgáu mewn dyfynodau dwbl yn ymddangos gyda’i gilydd ym mhob canlyniad yn union fel y cawsant eu teipio e.e. “social learning theory”. Os chwiliwch am yr uchod heb ddyfynodau, bydd hyn yn dangos yr holl chwiliadau ar gyfer y geiriau unigol.
Ehangu eich allweddeiriau
Ceisia gynnwys cyfystyron wrth i ti chwilio. Defnyddia thesawrws i ddod o hyd i dermau cysylltiedig neu debyg.
Defnyddia acronymau ac enwau llawn (er enghraifft: CSO a Central Statistics Office
Paid ag anghofio chwilio am bobl, lleoedd a sefydliadau sy’n gysylltiedig â’th bwnc.
Mireinio eich allweddeiriau
Mae’r dechneg cwtogi yn ehangu’ch chwiliad i gynnwys ffyrdd amrywiol o sillafu neu orffen gair. Er enghraifft, bydd histor* yn cydweddu â’r holl eiriau sy’n dechrau â histor (e.e., history, historical, historian, etc.) Gall arwyddion cwtogi amrywio rhwng cronfeydd data; mae arwyddion cyffredin yn cynnwys: *, !, ?, neu #.
Adnabod geiriau o ddiwylliannau gwahanol e.e. sbwriel yn Saesneg (rubbish/garbage/trash) neu sillafiad amrywiol: catalog/catalogue.
Defnyddio cerdyn gwyllt, (?) i amnewid un llythyren am symbol mewn gair. Mae hyn yn ddefnyddiol os caiff gair ei sillafu mewn ffyrdd gwahanol ond gyda’r un ystyr e.e. colo?r i chwilio am color a colour, neu wom?n i chwilio am woman a women.
Nodweddion iFind
Drwy fewngofnodi i’ch cyfrif myfyriwr ar iFind, gallwch chi:
- Wneud cais am eitemau i’w casglu neu gallwch ofyn iddynt gael eu hanfon atoch chi
- Gweld eich benthyciadau
- Cadw eich eitemau a’ch chwiliadau
- Gweld canlyniadau chwilio llawn – sylwer bod rhai eitemau’n gyfyngedig os nad ydych chi wedi mewngofnodi.
Nodwedd ddefnyddiol arall catalog iFind yw ‘darganfod casgliad’ yn yr opsiwn ‘mwy’ yn y bar gwelywio uchaf (…). Gallwch ddod o hyd i ddeunyddiau ar themâu penodol yn y casgliadau megis y casgliad Eifftoleg neu gasgliad Milne sy’n ymdrin â Rhyfel Cartref America. Mae hyn hefyd yn cynnwys ein casgliadau Darllen yn Well a Lles sy’n llawn llyfrau anacademaidd megis ffuglen, canllawiau hunangymorth a mwy.