Diweddariad Pwysig – Streic First Cymru – Teithio i’r Campws ac oddi yno

Mae gyrwyr First Cymru* yn bwriadu cymryd camau diwydiannol ynglŷn â thâl ac amodau, a fydd yn tarfu’n ddifrifol ar wasanaethau bws ledled y rhanbarth, gan gynnwys gwasanaethau o gampws i gampws.

Disgwylir y caiff gweithredu diwydiannol arfaethedig ei gynnal ar y dyddiadau canlynol:

  • Dydd Mercher 22 Hydref
  • Dydd Iau 23 Hydref
  • Dydd Gwener 24 Hydref
  • Dydd Sadwrn 25 Hydref

Yn ystod diwrnodau streic, dim ond nifer cyfyngedig o wasanaethau fydd ar waith, a fydd yn gweithredu yn unol ag amserlen gyfyngedig. Mae’n bosibl na fydd y rheini’n darparu gwasanaethau sy’n cynnwys campysau’r Brifysgol. Ceir rhagor o ddiweddariadau a gwybodaeth ar wefan First Cymru yma.

*Sylwer bod First Cymru yn weithredwr gwasanaethau bws preifat sy’n darparu gwasanaeth masnachol. Nid yw’n cael ei weithredu na’i reoli gan Brifysgol Abertawe.

Dysgu ac addysgu ar ddiwrnodau streic

Yn ystod diwrnodau streic, bydd addysgu wyneb yn wyneb yn parhau fel arfer ar ein campysau.  Bydd darlithoedd yn cael eu recordio, a bydd yr holl ddeunyddiau ar gael ar Canvas.

Bydd monitro presenoldeb myfyrwyr yn cael ei atal yn ystod cyfnod y streic. Os yw rheoliadau UKVI yn ei gwneud hi’n ofynnol i fyfyrwyr fynychu darlithoedd wyneb yn wyneb, ni fydd y myfyrwyr hynny’n cael eu cosbi ar ddiwrnodau streic.

Os gallwch gyrraedd y campws, rydym yn eich annog i barhau i fynychu eich sesiynau addysgu – yn enwedig y dosbarthiadau hynny nad oes ganddynt recordiadau, fel seminarau, labordai a gweithdai.

Cyrraedd a gadael y campws ar ddiwrnodau streic

Os ydych chi’n byw o fewn pellter cerdded neu feicio o’r campws, rydym yn eich annog yn gryf i ystyried yr opsiynau hyn yn ystod diwrnodau streic.

Bydd y Gwasanaeth Gwennol Parcio a Theithio a weithredir gan Drafnidiaeth De Cymru, sy’n cysylltu safle Parcio a Theithio Ffordd Fabian a Champws y Bae, ar waith fel arfer ac nid yw’r streic yn effeithio arno.

Dyddiadau streic arfaethedig

Rydym hefyd wedi cael gwybod gan First Cymru bod posibilrwydd o ragor o streiciau yn ystod yr wythnosau nesaf. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i fyfyrwyr ynghylch a yw’r dyddiau streic hyn yn mynd yn eu blaenau.

Ar gyfer diweddariadau, ewch i wefan First Cymru.

Os yw’ch ymholiad yn ymwneud yn benodol â threfniadau teithio ar y campws, cysylltwch â travel@swansea.ac.uk

Ein nod yw ymateb o fewn 48 awr.