Mae’n bleser gennym gadarnhau bod streic arfaethedig First Cymru ar gyfer 22-25 Hydref bellach wedi cael ei chanslo.
Sylwer: Mae First Cymru wedi cynghori y gallai fod streiciau pellach yn yr wythnosau nesaf. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i fyfyrwyr os bydd unrhyw ddyddiadau streic newydd yn cael eu cadarnhau.
Gyda gwasanaethau sydd ar waith fel arfer:
- Bydd cyfyngiadau parcio ar waith ar y ddau gampws fel arfer.
- Byddwn yn parhau i fonitro cyfranogiad myfyrwyr fel arfer a disgwylir i fyfyrwyr fynd i’w darlithoedd.
Ar gyfer diweddariadau gwasanaeth, ewch i wefan First Cymru.
Os yw’ch cais yn ymwneud yn benodol â threfniadau teithio ar y campws, e-bostiwch y Tîm Teithio – rydym yn ceisio ymateb o fewn 48 awr.