– Neges gan fyfyrwyr PhD o’r Ysgol Seicoleg–
Rydym yn cynnal ymchwil i ganfyddiadau blas ar gyfer cynhyrchion bwyd gwahanol. Bydd angen i gyfranogwyr fynychu 3 sesiwn wyneb yn wyneb ym Mhrifysgol Abertawe (Campws Singleton) lle byddant yn cael bisgedi blasu i’w bwyta ac yna byddant yn llenwi ychydig o gwestiynau o ran canfyddiadau blas.
Rydym yn chwilio am unigolion sy’n 18 mlwydd oed neu’n hŷn; ddim yn feichiog nac yn bwydo ar y fron ar hyn o bryd; heb gael llawdriniaeth fariatrig nac yn cymryd gweithyddion (agonists) glp-1 (e.e., ozempic, Mounjaro); ddim yn dilyn deiet i golli pwysau; heb alergedd i fisgedi, siocled tywyll neu jam; ac nad oes ganddynt anawsterau deintyddol/cnoi/llyncu.
Bydd cymryd rhan yn gofyn am oddeutu awr o’ch amser ar draws tair sesiwn. Bydd pob sesiwn yn cymryd tua 15 munud a chynhelir y sesiynau ar 3 diwrnod, 48 awr ar wahân: Dydd Llun; Dydd Mercher; Dydd Gwener (os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan, ond nid ydych chi ar gael ar y dyddiau hynny, cysylltwch â Rory Tucker gan ddefnyddio’r cyfeiriad isod ac efallai gall amserau gwahanol gael eu trefnu).
Ar ôl cwblhau bydd cyfranogwyr yn derbyn 8 o gredydau'r gronfa gyfranogi neu daleb 'One For All' gwerth £25.*
Sylwer, gall staff Prifysgol Abertawe gymryd rhan yn yr astudiaeth ond ni fydd modd iddynt dderbyn y daleb.
Os hoffech gymryd rhan neu os oes gennych unrhyw gwestiynau; anfonwch e-bost at Rory Tucker yn r.l.tucker@abertawe.ac.uk neu defnyddiwch y ddolen cofrestru cyfranogwr: