Dyma’r cymorth sydd ar gael iddych ar Gampws y Bae gan eich Undeb Myfyrwyr:
Canolfan Gyngor a Chymorth Galw Heibio
Bob dydd Mawrth 10-4pm yn Ystafell Gyffredin Y Twyni
Mynnwch gyngor am faterion academaidd (e.e. apeliadau a chamymddwyn academaidd), tai, cyffuriau ac alcohol, a lles cyffredinol.
Pwynt Gwybodaeth Undeb y Myfyrwyr
Bob dydd Mawrth 10-4pm yn Ystafell Gyffredin Y Twyni
Gofynnwch i ni am Gymdeithasau, Chwaraeon, Cynrychiolwyr, Ymgyrchoedd, Digwyddiadau neu unrhyw gwestiwn sy’n gysylltiedig â’r UM.
Cynhyrchion Mislif Am Ddim a Chynnyrch Iechyd Rhywiol
Ar gael bob dydd 10-4pm yn Ystafell Gyffredin Y Twyni
Mae’r stoc yn cael ei ailgyflenwi bob dydd Mawrth
Cyngor Iechyd Rhywiol Galw Heibio
Dydd Mawrth olaf pob mis 10-4pm yn Ystafell Gyffredin Y Twyni
Bydd yn cynnig cymorth cyfrinachol, sgrinio iechyd rhywiol, cyngor atal cenhedlu, profion beichiogrwydd, cyngor PrEP/PEP a gwasanaethau iechyd rhywiol cyffredinol, i gyd yn rhad ac am ddim ac yn gwbl gyfrinachol.