A yw eich bywyd digidol yn gwneud niwed i’r blaned – heb i chi sylweddoli hyd yn oed?

O ffrydio’r sioeau diweddaraf i arbed ffeiliau a defnyddio adnoddau fel ChatGPT, mae ein bywydau digidol yn fwy nag erioed. Ond y tu ôl i bob clic mae cost o ran carbon. Mae canolfannau data byd-eang nawr yn defnyddio mwy o drydan bob blwyddyn na’r rhan fwyaf o wledydd (IEA, 2025).

Y mis hydref hwn, ymunwch gyda’r Her Technoleg Feddylgar. Gan redeg o fis Hydref i fis Rhagfyr, dyma eich cyfle i adfyfyrio ar eich arferion defnyddio technoleg a chymryd camau gweithredu, y cyfan tra’n ennill pwyntiau a gwobrau.

Ymgymerwch â gweithgareddau sy’n cael traweffaith megis:

  • Lleihau eich storfa yn y cwmwl
  • Defnyddio cyfryngau AI mewn ffordd fwy meddylgar
  • Lleihau e-wastraff drwy gael gwared ar ddyfeisiadau
  • Archwilio effaith gudd ein technoleg yn ein modiwl eDdysgu rhyngweithiol newydd

Mae pob gweithred yn helpu i leihau eich ôl troed carbon. Ac ni fyddwch yn gwneud hynny ar eich pen eich hun: byddwch yn rhan o gymuned sy’n tyfu sy’n cymryd camau tuag at ddyfodol mwy gwyrdd.

Cymerwch ran yn yr her, enillwch bwyntiau a datgloi gwobrwyon. Beth am wneud i’n bywydau digidol weithio’n well ar gyfer y blaned.

Yn gyfranogwr SWell yn barod?

Mewngofnodwch i SWell a dewiswch “Her Dechnoleg Ymwybodol” o’r ddewislen ar y chwith.

Newydd i SWell?

Cofrestrwch ar gyfer SWell a dechreuwch ennill pwyntiau gwyrdd!