Oes gennych diddordeb mewn astudio dramor?

P’un ai ydych eisoes ar raglen blwyddyn dramor neu’n archwilio’ch opsiynau, ymunwch â thîm Mynd yn Fyd Eang ar gyfer ein sesiwn wybodaeth ar-lein i ddysgu mwy.

🗓 Pryd: Dydd Mercher 5ed o Dachwedd
🕜 Amser: 1:30yp
📍 Lle: Zoom (bydd y ddolen yn cael ei hanfon atoch cyn y sesiwn)

Mae’r sesiwn hon yn agored i:

  • Myfyrwyr ail flwyddyn presennol sydd eisoes ar raglen blwyddyn dramor
  • Myfyrwyr ail flwyddyn nad ydynt wedi cofrestru ar raglen blwyddyn dramor ond sydd â diddordeb mewn ymuno â’r rhestr aros (os yw’ch gradd yn cynnig opsiwn blwyddyn dramor)

Dyma beth fyddwn yn ei drafod:

  • Amserlenni allweddol a’r camau nesaf
  • Sut i wneud cais am leoliad blwyddyn dramor
  • Awgrymiadau ymchwil a sut i baratoi

Mae’n gyfle gwych i ddeall beth mae blwyddyn dramor yn ei olygu a sut i gymryd y camau nesaf.

👉 Heb eich cofrestru ar raglen blwyddyn dramor ar hyn o bryd? Cofrestrwch eich diddordeb a ymunwch â’r rhestr aros yma:
https://app.onlinesurveys.jisc.ac.uk/s/swansea/26-27-year-abroad-expression-of-interest

Dolen Zoom: Byddwn yn anfon hon at eich e-bost prifysgol ychydig cyn y sesiwn — cadwch lygad ar eich negeseuon e-bost!

Edrychwn ymlaen at eich gweld ar y 5ed o Dachwedd!