Yn Cyflwyno Oriau Sgiliau Llyfrgell
Gan ddechrau’r wythnos hon, rydyn ni’n treialu cynllun newydd ar gyfer y tymor hwn o’r enw Oriau Sgiliau Llyfrgell.
Yn debyg i’r ffordd y mae gan dy fentoriaid personol a’th ddarlithwyr oriau swyddfa, bydd un o Uwch-swyddogion y Llyfrgell ar gael ar adegau penodol i ti alw heibio naill ai wyneb yn wyneb neu dros Zoom i helpu gydag ymholiadau.
Mae’n gyffrous helpu myfyrwyr wyneb yn wyneb wrth hefyd allu cysylltu â thi ar-lein ble bynnag y byddi di ar y pryd.
Gallet ti fod yn unigolyn sydd ag ymholiad, neu’n grŵp o gyd-fyfyrwyr sydd â chwestiynau tebyg, gall sesiynau dwy awr gyda’n swyddogion y llyfrgell dy helpu i:
-
-
-
Chwilio llenyddiaeth
-
Gwerthuso ffynonellau
-
Dod o hyd i wybodaeth arbenigol
-
Cyfeirnodi
-
A mwy
-
-
Os nad oes angen apwyntiad llawn ar gyfer rhai ymholiadau, mae hyn yn rhoi cyfle i ti gael ateb cyflym, does dim angen cadw lle.
Ein Horiau Swyddfa fydd:
Bob dydd Llun 10.00-12.00, Ystafell Gyfweld 4, Llyfrgell y Bae a thrwy Zoom
Bob dydd Iau 10.00-12.00, Ystafell Gyfweld 1, Llyfrgell Parc Singleton a thrwy Zoom
Bydd y ddolen Zoom i’r sesiynau hyn yn aros yr un fath, felly os hoffet ti ymuno â sesiwn, cysyllta â ni yma. Fel arall, mae manylion y cyfarfod isod:
ID Cyfarfod: 924 1150 1296
Cyfrinair: 084479
Pan fyddi di’n ymuno â’r alwad, efallai byddi di’n mynd i ystafell aros tra byddwn ni’n helpu myfyriwr arall. Os bydd hynny’n digwydd, diolch i ti am dy amynedd.