Mae Ffair Mynd yn Fyd-eang Prifysgol Abertawe’n dychwelyd i Gampws Singleton a’r Bae mis Tachwedd hwn.

Ymunwch â’r tîm Mynd yn Fyd-Eang i ganfod mwy o wybodaeth am yr ystod eang o gyfleoedd rhyngwladol cyffrous sydd ar gael. Nid oes rhaid i chi fod ar raglen blwyddyn dramor i gael profiad rhyngwladol. Mae ystod o gyfleoedd byr dymor dros yr haf, hyd yn oed i fyfyrwyr nad ydynt yn siarad iaith arall.

Meddyliwch am dreulio ychydig o wythnosau dros gwyliau’r Haf yn gwirfoddoli yn Fiji, Sri Lanka neu’r UDA….mae rhywbeth i bawb!

Bydd y tîm Mynd yn Fyd-eang wrth law i siarad â chi am yr ystod eang o raglenni haf a’r cyllid hael sydd ar gael am gyfleoedd rhyngwladol (nid yw ar gael i fyfyrwyr y flwyddyn olaf).

Campws Singleton

Ystafell y Mal, Taliesin

11:30yb – 2:30yp

Dydd Mercher 19eg o Dachwedd

Campws y Bae

Y Cuddfan

11:30yb – 2:30yp

Dydd Iau 20fed o Dachwedd

Am fwy o wybodaeth ewch i: www.swansea.ac.uk/summerprogrammes neu e-bostiwch studyabroad@swansea.ac.uk