Ddydd Mawrth 2 Rhagfyr, bydd rhyngwyneb cronfa ddata EBSCO yn newid. Bydd gan y dyluniad newydd nodweddion hygyrchedd gwell, gan gynnwys gwell cydnawsedd â darllenwyr sgrîn.

Mae cronfeydd data EBSCO yn arbennig o ddefnyddiol i fyfyrwyr Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol a Gwyddor Chwaraeon, gan roi mynediad i ti at ystod eang o gynnwys gan gynnwys e-lyfrau, erthyglau o gyfnodolion, papurau cynhadledd ac erthyglau newyddion gan ddarparwyr gwybodaeth blaenllaw.

Bydd nodweddion allweddol eraill i ti eu defnyddio, fel canlyniadau chwilio bellach wedi’u trefnu mewn tabiau, fel “All Results,” “Evidence-Based Care Sheets,” “Quick Lessons,” a “Videos,” sy’n dy alluogi i lywio’n hawdd drwy wahanol fathau o gynnwys.

Gelli di nawr ychwanegu hyd at 12 bar chwilio gwahanol mewn un chwiliad uwch, gan wella’r gallu i fireinio chwiliadau, a thrwy’r opsiwn Iaith Naturiol, bydd modd i ti deipio cwestiynau neu ddatganiadau, gan wneud chwiliadau yn fwy greddfol.

I unrhyw un sydd eisoes yn defnyddio EBSCO ac sydd ag unrhyw eitemau wedi’u cadw, mae ychydig o bethau i’w gwirio a’u paratoi i sicrhau dy fod yn trosglwyddo’n ddidrafferth:

1. Chwiliadau wedi’u Cadw – Bydd unrhyw chwiliadau sydd wedi’u cadw gennyt ti yn symud yn awtomatig i’r rhyngwyneb newydd pan fyddi di’n mewngofnodi. Does dim angen i ti boeni am y rhain!

2. Hysbysiadau am Gyfnodolion a chwilio – Yn anffodus, fydd dy hysbysiadau am gyfnodolion ddim yn trosglwyddo’n awtomatig. Cyn y newid, gwna’n siŵr dy fod yn nodi pa gyfnodolion rwyt ti wedi creu hysbysiadau ar eu cyfer (gelli di dynnu sgrinlun ohonyn nhw neu eu copïo a’u gludo mewn dogfen). Bydd angen i ti ail-greu’r rhybuddion hyn unwaith y byddi di yn y rhyngwyneb newydd.

3. Ffolderi wedi’u Teilwra – Os wyt ti wedi creu ffolderi wedi’u teilwra i drefnu’r erthyglau rwyt ti wedi’u cadw, fydd y rhain ddim yn cario drosodd yn awtomatig i’r rhyngwyneb newydd. I gadw dy erthyglau, allforia nhw cyn y diweddariad. Am ragor o fanylion am y broses hon, clicia yma.

Os oes gen ti gwestiynau neu os oes angen cymorth arnat ti wrth drosglwyddo, e-bostia library@abertawe.ac.uk.