Mae Dy Lais, Dy Abertawe yn dathlu pŵer lleisiau myfyrwyr wrth lunio eich profiad prifysgol. O welliannau cwrs i gyfleusterau’r campws, arlwyo, gwasanaethau TG a gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr, mae eich adborth yn gyrru newidiadau go iawn.
Dywedwch wrthym am eich adborth, awgrymiadau a beth sy’n gweithio’n dda, fel y gallwn ei gadw i fynd, neu beth nad yw’n gweithio mor dda er mwyn i ni allu parhau i gwella!
Gall eich llais wneud gwahaniaeth gwirioneddol yma ym Mhrifysgol Abertawe. Edrychwch ar rai o’r enghreifftiau blaenorol lle mae eich adborth wedi arwain at newid ac wedi gwneud gwahaniaeth. Trwy rannu eich barn, rydych chi wir yn ein helpu i wella profiad y myfyriwr, felly diolch!
Bydd eich adborth yn cael ei drin fel cyfrinachol oni bai ei fod yn cynnwys torri polisïau neu ganllawiau diogelu’r Brifysgol.