Gallwn gadarnhau bod streic arfaethedig First Bus (Cymru), oedd bod i gael ei gynnal o ddydd Iau 20 Tachwedd, bellach wedi’i atal tan ddydd Sul 7 Rhagfyr, hyd nes y bydd pleidlais i’r aelodau ar 28 Tachwedd ar gynnig cyflog diwygiedig.

Ar ôl i ni gael gwybodaeth gan First Bus ar ganlyniadau’r bleidlais, byddwn yn eich diweddaru.

Sylwer, gyda gwasanaethau bellach yn rhedeg fel arfer:

  • Bydd monitro ymgysylltu myfyrwyr yn parhau fel arfer, a disgwylir i fyfyrwyr fynychu’r holl ddarlithoedd a drefnwyd.
  • Ni fydd y gwasanaeth U2 dros dro a gynlluniwyd ar gyfer diwrnodau streic yn unig o faes parcio Ffordd Fabian i Gampws Singleton yn rhedeg*.

*Nodyn: mae’r gwasanaeth U1 i Gampws y Bae yn parhau fel arfer.

Am y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i wefan First Bus.