Cronfa Caledi Prifysgol Abertawe

Os yw myfyrwyr yn cael trafferth ariannol, mae Cronfa Caledi Prifysgol Abertawe ar gael i wneud cais iddi. Nid yw dyfarniadau o’r gronfa wedi’u gwarantu ac ni ellir eu defnyddio fel math o gyllid ond maent ar waith i fyfyrwyr cymwys wneud cais am  gymorth tymor byr os ydynt mewn  cyflwr presennol o galedi ariannol oherwydd amgylchiadau annisgwyl. Fel y soniwyd o’r blaen, nid oes unrhyw warant y bydd cais yn arwain at ddyfarniad, ond pe baech chi’n derbyn taliad, ni fyddai angen i chi ei dalu’n ôl. Gallwch weld rhagor o wybodaeth am y cronfeydd a’r ddolen i wneud cais ar y dudalen we ganlynol yma: Help gyda Chaedi

Os hoffech i’ch asesiad cronfa galedi gael ei gwblhau cyn i’n swyddfeydd gau ar gyfer gwyliau’r Nadolig, yna rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 28/11/25

SYLWER: Nid oes unrhyw warant i dderbyn unrhyw gymorth ariannol o’n cronfeydd caledi gan fod pob asesiad yn ôl disgresiwn ac yn seiliedig ar dystiolaeth o brofi caledi ariannol. Bydd y cronfeydd caledi yn parhau i fod ar agor a byddwn yn parhau i wneud asesiadau y tu hwnt i’r dyddiad hwn, fodd bynnag, ni fyddwn yn gallu gwarantu y bydd asesiad yn cael ei gwblhau cyn i’n swyddfa gau ar gyfer gwyliau’r Nadolig.

Rydym hefyd yn dal i redeg taliadau bwrsariaethau / cymorth ychwanegol ond mae’r un canllawiau asesu ceisiadau yn berthnasol.  Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth am y rhain drwy’r ddolen isod ymhellach i lawr ar y dudalen caledi:-

Help gyda chaledi

Am ragor o wybodaeth am gymorth sydd ar gael i Fyfyrwyr Rhyngwladol, gweler y ddolen isod ar gyfer ein Cronfa Cymorth Myfyrwyr Rhyngwladol:-

 Cronfa Cymorth Myfyrwyr Ryngwladol