Rydym yn falch o gadarnhau bod y gweithredu diwydiannol arfaethedig gan yrwyr a staff cymorth First Bus, a oedd i fod i gael ei gynnal rhwng 7 Rhagfyr a 21 Ionawr, wedi’i ganslo.
Mae'r gwasanaethau arferol yn ailddechrau o 1 Rhagfyr
Gyda gwasanaethau First Bus bellach ar waith fel arfer:
- Mae gwybodaeth am wasanaethau First Bus i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe ar gael ar wefan First Bus.
- Mae amserlenni Tymor Un ar waith tan 13 Rhagfyr.
- Bydd amserlenni y tu allan i’r tymor ar waith o 13 Rhagfyr i 4 Ionawr, ar gael ar wefan First bus a First Bus ap.
- Bydd y gwasanaeth X1 o Gampws i Gampws yn parhau i weithredu y tu allan i’r tymor.
- Bydd monitro presenoldeb myfyrwyr yn parhau fel arfer, a disgwylir i fyfyrwyr fynychu’r holl ddarlithoedd a drefnwyd.
- Mae gwasanaeth U1 i Gampws y Bae yn parhau fel arfer. Ni fydd y gwasanaeth U2 dros dro a drefnwyd ar gyfer diwrnodau streic yn unig o Barcio a Theithio Ffordd Fabian i Gampws Singleton ar waith.
Ad-daliadau i ddeiliaid tocynnau bws
Os ydych chi wedi prynu tocyn bws blynyddol, tymor neu fisol, rydych chi’n gymwys i wneud cais am ad-daliadau am unrhyw ddiwrnodau streic sydd wedi effeithio ar eich teithio.
Cludiant i gyrraedd arholiadau
Bydd cludiant ychwanegol ar gael yn ystod cyfnod yr arholiadau ym mis Ionawr i helpu myfyrwyr i fynd i’r arholiadau ac yn ôl. Mae hyn yn ychwanegol at wasanaethau First Bus. Bydd rhagor o fanylion, gan gynnwys amserlenni, yn dilyn yn fuan.
Rydym yn gwerthfawrogi’r tarfu sylweddol a achoswyd i fyfyrwyr a staff yn ystod y cyfnod hwn o weithredu diwydiannol. Mae ein Harolwg Teithio bellach ar agor ac rydym yn eich annog i ddefnyddio’r cyfle hwn i ddweud wrthym am eich profiadau o gyrraedd a gadael y campws.