Mae’r cynnig bysus am ddim hynod boblogaidd yn y ddinas yn dychwelyd. 

O’r 6ed o Ragfyr, byddwch yn gallu teithio o amgylch rhanbarth Abertawe GYFAN am ddim ar ddyddiadau penodol tan y 31ain o Ragfyr! Mae’r cynnig hwn yn berthnasol i’r holl wasanaethau bws a weithredir gan First Cymru, Adventure Travel, South Wales Transport a DANSA. Yr unig wasanaethau nad ydynt wedi’u cynnwys yw:

 

  • Gwasanaethau bysiau pellter hirach a weithredir gan National Express a Flixbus. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwasanaethau i Gampws y Bae, gan fod hyn y tu allan i ranbarth Abertawe.
  • Gwasanaethau 51 a 52 First Cymru i’r meysydd parcio a theithio ac oddi yno.
u

Ai’r cyfan sy’n rhaid i mi ei wneud yw mynd ar y bws? Oes rhaid i mi ddatgan i ble rwy’n mynd neu gasglu tocyn gan y gyrrwr?

Os yw’r bws yn gweithredu o fewn Abertawe, y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw camu ar y bws a mwynhau’r daith. Os yw’r bws yn teithio y tu allan i Abertawe, i Gastell-nedd neu Gaerfyrddin er enghraifft, efallai y bydd y gyrrwr yn gofyn i ble rydych chi’n mynd, gan fod y cynnig teithio am ddim ar gyfer lleoliadau yn Abertawe’n unig.

Pryd mae’r bysiau am ddim yn rhedeg?

Bydd y gwasanaeth bws am ddim yn rhedeg bob penwythnos ym mis Rhagfyr, yn ogystal â dyddiadau ychwanegol dros gyfnod gwyliau’r Nadolig. Gallwch ddod o hyd i’r rhestr lawn o ddyddiadau drwy ymweld â gwefan Cyngor Abertawe. Sylwch fod yn rhaid i bob taith ddechrau cyn 7pm neu fel arall bydd rhaid talu fel arfer. 

I gael rhagor o wybodaeth am deithio ar fws am ddim ym mis Rhagfyr, ewch i wefan Cyngor Abertawe lle gallwch ddod o hyd i restr lawn o gwestiynau cyffredin ynghyd â map manwl o’r cyrchfannau sy’n gymwys i deithio ar fws am ddim. Cofiwch fod Campws y Bae yn dod o dan Gyngor CNPT ac nid Cyngor Abertawe, felly nid yw’n gymwys ar gyfer y cynnig hwn.