Bydd UPP yn cynnal gwaith hanfodol ar Gampws y Bae i ailosod gwresogydd dŵr diffygiol ym mloc llety Dolbardon. Er mwyn cwblhau hyn yn ddiogel, bydd craen codi ar y safle, sy’n golygu y bydd rhaid cau’r ffordd o Adeilad Gogleddol Peirianneg i floc llety Dolbardon ar hyd Ffordd Afan rhwng 9.30am a 12pm ddydd Mercher 17 Rhagfyr.

Ni fydd gwasanaethau First Bus yn mynd i mewn i’r campws yn ystod y cyfnod hwn ac yn hytrach byddant yn casglu ac yn gollwng ar y brif ffordd. Ar ôl yr amser hwn, bydd gwasanaethau bysiau yn parhau fel arfer.

Os bydd angen gohirio oherwydd tywydd gwael, byddwn yn ceisio cynnal y gwaith hwn y diwrnod canlynol, sef dydd Iau 18 Rhagfyr, pan fydd yr un trefniadau cau a threfniadau bysiau yn berthnasol.

Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra ac yn diolch i chi am eich amynedd a’ch dealltwriaeth.