Wrth i dymor yr Hydref ddod i ben, gobeithiwn y byddwch chi’n gallu mwynhau seibiant haeddiannol. Isod fe welwch oriau agor Nadolig y Brifysgol a gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael drwy gydol y cyfnod gwyliau. Sylwch y bydd y Brifysgol ar gau o ddydd Mercher 24 Rhagfyr tan ddydd Sul 4 Ionawr 2026.
Os ydych chi’n aros yn Abertawe dros y gwyliau, efallai yr hoffech chi edrych ar ein canllaw i weithgareddau yn y ddinas yn ystod y cyfnod hwn.
Oriau Agor Desg Hwb
Er ein bod yn gweithredu oriau desg llai dros gyfnod y Nadolig, gallwch gyflwyno tocyn ar unrhyw adeg. Sylwch na fyddwn yn gallu ymateb nes ein bod yn ôl ym mis Ionawr.
Yn y cyfamser, gallwch gael mynediad i’n Sylfaen Wybodaeth, lle byddwch yn dod o hyd i atebion i gwestiynau cyffredin ac arweiniad ar ystod eang o bynciau.
|
w/d 15 Rhagfyr |
Dydd Llun i ddydd Gwener |
09:00–16:30 |
|
w/d 22 Rhagfyr |
Dydd Llun 22 Rhagfyr |
09:00–16:30 |
|
Dydd Mawrth 23 Rhagfyr |
09:00–12:00 |
|
|
Dydd Mercher 24 – Dydd Gwener 26 Rhagfyr |
Ar Gau |
|
|
w/d 29 Rhagfyr |
Dydd Llun i ddydd Gwener |
Ar Gau |
|
w/d 5 Ionawr |
Dydd Llun i ddydd Gwener |
08:30–17:00 (ailddechrau oriau arferol) |
Cludiant cyhoeddus yn ystod y gwyliau
Bydd First Cymru yn gweithredu llai o wasanaethau dros gyfnod y Nadolig, o ddydd Sul 14 Rhagfyr i ddydd Sul 4 Ionawr. Gallwch weld yr amserlen yma. Bydd amserlen y tymor yn ailddechrau ddydd Llun 5 Ionawr.
Bydd gwasanaeth bws gwennol (U1) Parcio a Theithio y Brifysgol, rhwng Campws y Bae a safle Parcio a Theithio Ffordd Fabian yn dod i ben ddydd Gwener 12 Rhagfyr ac yn ailddechrau ddydd Llun 6 Ionawr.
Mae bysiau am ddim Abertawe hefyd yn ôl ar gyfer gwyliau’r Nadolig, gan ddechrau ar ddydd Sadwrn 6 Rhagfyr ac yn gorffen ar 31 Rhagfyr. Mae’r cynnig hwn ar gyfer teithiau sy’n dechrau ac yn gorffen o fewn ardal Cyngor Abertawe felly nid yw Gampws y Bae wedi’i gynnwys. Rhaid i bob taith ddechrau cyn 7.00pm.
Sylwer, bydd y gwasanaeth X1 yn parhau i redeg drwy gydol cyfnod y gwyliau gan gynnig gwasanaeth rhwng campysau (yn stopio ar gampws Singleton a’r tu allan i Gampws y Bae).
I gael rhagor o wybodaeth am deithio ar y bws dros gyfnod y Nadolig, ewch i wefan First Cymru. Am wasanaethau bws eraill, ewch i wefan bysiau Adventure Travel. I gael gwybodaeth a diweddariadau am y trenau, ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru i gynllunio eich taith.
Adeiladau'r Llyfrgell a'r Brifysgol
Sylwch y bydd adeiladau’r llyfrgell a’r adran gasgliadau yn cael eu cau dros gyfnod gwyliau’r Nadolig.
| Dyddiau | Oriau agored adeilad y llyfrgell | Desg Wybodaeth y Llyfrgelloriau agor |
| Dydd Llun 15 – Dydd Gwener 19 Rhagfyr | 08:00 – 20:00 | 09:00-17:00 |
| Dydd Sadwrn 20 a dydd Sul 21 Rhagfyr | Ar Gau | Ar Gau |
| Dydd Llun 22ain a dydd Mawrth 23ain o Ragfyr | 09:00-17:00 | 09:00-17:00 |
| Dydd Mercher 24 Rhagfyr – Dydd Gwener 2 Ionawr | Ar Gau | Ar Gau |
| Dydd Sadwrn 3ydd a Dydd Sul 4ydd Ionawr | 12:00 (hanner dydd) – 08:00 | Ar Gau |
Gallwch hefyd fanteisio ar y llyfrgell ganolog newydd yn Y Storfa, sydd wedi’i lleoli ar Stryd Rhydychen yng nghanol y ddinas. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan cyngor Abertawe.
Mannau astudio allan o oriau
- Bydd y mannau astudio allan o oriau yn Labordai Cyfrifiaduron Tŷ’r Undeb 302 a Nanhyfer 004 yn y Bae ar agor 24/7 dros gyfnod cau’r Nadolig.
- Byddant yn dychwelyd i oriau agor arferol (fel yr hysbysebir ar Hwb) o ddydd Llun 5 Ionawr 2026.
Cymorth mewn argyfwng
Rydym yn gobeithio’n fawr na fyddwch chi’n cael eich hun mewn sefyllfa argyfwng dros gyfnod y gwyliau, fodd bynnag, gellir dod o hyd i fanylion am beth i’w wneud mewn argyfwng yma.
Bydd ein Gwasanaethau Diogelwch yn parhau i weithredu ar y campws 24/7 yn ystod y cyfnod hwn, gallwch eu cyrraedd trwy ffonio 01792 604 271 neu ddefnyddio’r ap Safezone.
Cymorth llesiant
Er y bydd gwasanaethau’r Brifysgol ar gael am oriau cyfyngedig dros y gwyliau, mae rhestr isod o adnoddau i’ch helpu os bydd gennych anawsterau yn ystod y cyfnod hwn.
- TogetherAll – Gwasanaeth iechyd meddwl digidol ar-lein sy’n lle diogel i siarad, i rannu a chefnogi eraill fel chi, wedi’i gymedroli gan ymarferwyr proffesiynol 24/7.
- Gwasanaeth Lles: Adnoddau Hunangymorth
- Gwasanaeth Lles: tudalennau cymorth mewn argyfwng a phoeni am eraill
- Mind – Yr elusen iechyd meddwl
- Y Samariaid – Mae bob amser rhywun ar gael i unrhyw un sydd angen siarad â rhywun. Mae’r Samariaid yn cynnig llinell gymorth 24 awr. Ffôn: 116 123 (y DU)
Mannau arlwyo ar y campws
Bwyd yr Ŵyl!
Beth am ddod â thymor 1 i ben drwy fwynhau cinio Nadolig gyda ffrindiau yn Harbwr neu’r Guddfan ar 16 neu 17 Rhagfyr.
Bydd ein mannau arlwyo ar agor am lai o oriau o 15 Rhagfyr. Gelli di weld ein horiau agor yma. Sylwer y bydd y Brifysgol ar gau o ddydd Mercher 24 Rhagfyr tan ddydd Sul 4 Ionawr 2025.
Edrychwn ymlaen at dy groesawu di nôl am fwy o brydau blasus ym mis Ionawr.
Diffodd, Troi i Lawr a Chau
Wrth i ni nesáu at wyliau Nadolig 2025, cymerwch eiliad i’n helpu i ddefnyddio llai o ynni, gwella diogelwch ar y campysau a chefnogi rhaglenni sero net, a chynaliadwyedd ariannol Prifysgol Abertawe.
Cyn gadael am y gwyliau, gwnewch yn siŵr eich bod yn:
- Diffodd pob dyfais, cyfarpar a golau nad ydynt yn hanfodol.
- Troi’r gwres a rheolyddion dyfeisiau i lawr lle bynnag y bo modd.
- Cau a chloi pob ffenestr, drws a mynedfa arall.
- Rhoi gwybod am unrhyw ddiffygion, gollyngiadau neu broblemau cyn i chi adael.
Mae eich camau gweithredu’n gwneud cyfraniad ystyrlon at ostwng allyriadau carbon, lleihau costau a sicrhau bod ein hadeiladau’n ddiogel dros y gwyliau.
Diolch am eich cefnogaeth drwy gydol y flwyddyn. Mwynhewch wyliau Nadolig braf a haeddiannol a chofiwch wirio eich pwyntiau SWell.
Ddesg Gwasanaeth TG
Bydd y Ddesg Wasanaeth TG yn darparu cymorth ffôn cyfyngedig rhwng 8:30 a.m. a 4:30 p.m. ar y dyddiadau gwyliau dynodedig: Rhagfyr 24ain, 29ain, 30ain, a 31ain, yn ogystal â Ionawr 2il, 2026.
Bydd cymorth ffôn arferol yn ailddechrau ar 5 Ionawr, rhwng 8am a 5pm.
Byddwch yn gwybod y bydd desg galw heibio y Ddesg Wasanaeth TG ar y ddau gampws ar gau yn ystod yr egwyl hon a bydd yn ailagor ar Ionawr 5ed, 2026, gan weithredu yn ystod oriau a diwrnodau arferol.
Diweddariad ffitrwydd Nadoligaidd o Barc Chwaraeon Bae Abertawe!
Lapiwch Tymor 1 gyda bach o ymarfer corff. Bydd ein Canolfan Athletau a Hoci, Canolfan Chwaraeon a chyfleusterau Campws y Bae yn rhedeg oriau agor Nadoligaidd o ddydd Llun 15 Rhagfyr, gyda chau llawn ar Ddydd Nadolig, Dydd San Steffan a Dydd Calan. Byddwn yn ôl i’r arfer o ddydd Llun 5ed Ionawr, yn barod i groesawu’r Flwyddyn Newydd!
Rydym yn gobeithio y gallwch chi gymryd y cyfle i orffwys, cymryd rhan mewn gweithgareddau rydych chi’n eu mwynhau, a dod yn ôl yn ôl ym mis Ionawr.