Mae Rhaglen Fentora Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe ar gyfer myfyrwyr yr ail a’r drydedd flwyddyn yn ogystal â graddedigion diweddar sydd am fagu hyder, cael cipolwg ar ddiwydiant a pharatoi am fywyd ar ôl y Brifysgol. Bydd y rhaglen, a gynhelir rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2026 (gan baru mentor â’r rhai i’w mentora yn ystod mis Rhagfyr), yn eich cysylltu â chyn-fyfyrwyr profiadol o Abertawe sy’n gallu cynnig arweiniad, anogaeth a gwybodaeth ymarferol i gefnogi datblygiad eich gyrfa a’ch twf personol.

Dyma eich cyfle i feithrin perthynas broffesiynol ystyrlon â rhywun sydd wedi bod yn eich esgidiau chi ac wedi mynd ymlaen i gael gyrfa lwyddiannus.  Os ydych yn archwilio llwybrau gyrfa posib, yn chwilio am gymorth gyda chyflwyno ceisiadau a chyfweliadau, neu am gael eglurhad a hyder wrth i chi gymryd eich camau nesaf, gall eich mentor fod yn gyfaill gwerthfawr. Unwaith bydd y rhaglen yn dechrau, bydd yr wybodaeth a roddir gennych yn ein helpu i’ch paru â mentor sy’n cydweddu â’ch nodau a’ch diddordebau.   

Drwy gydol y rhaglen, bydd cyfle gennych i:
      • Ddysgu o brofiadau a dewisiadau gyrfa graddedigion Abertawe
      • Cryfhau eich CV, eich ceisiadau a’ch sgiliau cyfweld
      • Ennill dealltwriaeth ymarferol o ddiwydiannau, gweithleoedd a disgwyliadau
      • Meithrin cysylltiadau proffesiynol sy’n gallu para y tu hwnt i’r rhaglen

Mae mentoriaid yn cael budd hefyd, gan ennill profiad gwerthfawr o gefnogi’r genhedlaeth nesaf o raddedigion Abertawe a chyfrannu at gryfder parhaus cymuned y brifysgol. Mae Rhaglen Fentora’r Cyn-fyfyrwyr yn atgyfnerthu’r syniad nad yw profiad Abertawe yn dod i ben ar ôl graddio — mae’n datblygu’n berthynas gydol oes sy’n seiliedig ar barch ar y ddwy ochr, cyfleoedd a llwyddiant a rennir.