Os wyt ti’n sefyll asesiadau ym mis Ionawr, cymera gipolwg ar yr isod sy’n amlygu gwybodaeth ddefnyddiol i’th gefnogi a’th helpu i baratoi a theimlo bod gennyt ti’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnat ti wrth ddechrau’r cyfnod hwn.

Cyrsiau am ddim i’th helpu i baratoi!

Er y gall y cyfnod asesu fod yn adeg heriol i lawer o fyfyrwyr, gall y Ganolfan Llwyddiant Academaidd roi llawer o syniadau ac adnoddau astudio defnyddiol iti sy’n canolbwyntio ar fireinio dy sgiliau. Ar ben hynny, gall y Ganolfan dy helpu di i fagu hyder drwy amrywiaeth o gyrsiau, gweithdai a sesiynau tiwtorial un i un er mwyn iti ddod yn ddysgwr mwy effeithiol. 

Mae Undeb y Myfyrwyr hefyd yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau Cymorth Astudio rhwng 5 a 23 Ionawr i’th gefnogi gyda dy adolygu neu i helpu i leddfu straen a’th gynorthwyo i ymdopi â phwysau ychwanegol y cyfnod hwn.

Gelli di fenthyg gliniadur neu ddefnyddio cyfrifiadur personol

Wyddet ti fod gennym ni liniaduron sydd ar gael i ti eu benthyg o lyfrgelloedd Campws Parc Singleton a Champws y Bae? 

Os bydd angen i ti fenthyg gliniadur cyn arholiadau, cer draw i dudalennau gwe’r llyfrgell i gael gwybod sut i wneud hyn. Mae’r broses fenthyca yn syml iawn.

Mae digon o gyfrifiaduron pen desg ar gael i ti eu defnyddio ar bob campws. Gelli di neilltuo rhai ohonynt, a gelli di ddefnyddio rhai heb eu cadw o flaen llaw. Ceir rhagor o wybodaeth yma. Gelli di gael mwy o wybodaeth am oriau cyfrifiaduron y tu allan i oriau swyddfa ar ein tudalen we Mannau Astudio.

Mannau astudio ar y campysau

P’un a wyt ti’n chwilio am fan tawel i astudio, eisiau cydweithio fel grŵp neu am ymlacio, mae digon o le i ti ym mhob un o’r tri champws.

I bori’n lleoedd, clicia yma.

Mannau astudio allan o oriau

  • Bydd y mannau astudio allan o oriau yn Labordai Cyfrifiaduron Tŷ’r Undeb 302 a Nanhyfer 004 yn y Bae ar agor 24/7 dros gyfnod cau’r Nadolig.
  • Byddant yn dychwelyd i oriau agor arferol (fel yr hysbysebir ar Hwb) o ddydd Llun 5 Ionawr 2026.

Gweithredwch ac astudiwch yn glyfar: Lawrlwythwch ac arbedwch adnoddau critigol

Wrth i ni agosáu at ddiwedd y tymor, nawr yw’r amser perffaith i wneud yn siŵr eich bod wedi lawrlwytho ac arbed yr adnoddau allweddol y bydd eu hangen arnoch ar gyfer eich gwaith cwrs, i adolygu, ac ar gyfer eich ymchwil. Gyda’r Brifysgol ar gau rhwng 24 Rhagfyr a 4 Ionawr, a chymorth llyfrgell a TG wedi’i gyfyngu i’n canllawiau ar-lein a’n sylfaen wybodaeth yn ystod y cyfnod hwn, mae’n bwysig cymryd camau nawr i ddiogelu eich gwaith a sicrhau mynediad di-dor i bopeth sydd ei angen arnoch, yn enwedig os ydych chi’n teithio.

Cymorth a chyngor

Gall llywio’ch ffordd drwy’r cyfnod asesu achosi straen felly mae gennym amrywiaeth o adnoddau ym Mhrifysgol Abertawe i’ch cefnogi yn ystod y cyfnod hwn.

Mae gennym ni’r peth delfrydol i’th helpu i baratoi ar gyfer cyfnod yr arholiadau sydd ar ddod!

Mae gan Hapus, ein Pecyn Cymorth Bywyd Myfyrwyr ar-lein, lu o awgrymiadau a gwybodaeth i’th helpu i gynllunio dy amserlen astudio, osgoi gohirio gwneud pethau, ac ymdopi â straen ac ansicrwydd. Gelli di gyrchu Hapus yma.

Mae gan Undeb y Myfyrwyr Ganolfan Cyngor a Chymorth annibynnol, a bydd y tîm ar gael i fyfyrwyr alw heibio yn ystod y cyfnod asesu.

Amgylchiadau esgusodol

Mae’r Brifysgol yn cydnabod y gall amrywiaeth eang o anawsterau/amgylchiadau effeithio ar fyfyrwyr, a all eu rhwystro rhag cyflwyno gwaith cwrs neu ymgymryd ag asesiadau.

Os na elli di baratoi ar gyfer asesiadau neu ymgymryd ag asesiadau oherwydd yr anawsterau hyn, gelli di gyflwyno cais am amgylchiadau esgusodol drwy e:Vision. Lluniwyd y cyfarwyddyd hwn i’ch helpu i ddeall beth dylech ei wneud os ydych yn profi anawsterau personol neu amgylchiadau esgusodol sydd yn eich barn chi’n effeithio ar eich astudiaethau.

Teithio

Mae gwybodaeth am wasanaethau First Bus sy’n rhedeg yn ystod cyfnod yr arholiadau o ddydd Llun 5 Ionawr tan 24 Ionawr 2026 ar wefan First Bus. Yn ogystal â First Bus a gwasanaethau lleol eraill, byddwn yn darparu gwasanaethau bws ychwanegol yn ystod cyfnod yr arholiadau. Mae llwybrau ac amserlenni’n cael eu cwblhau – bydd manylion llawn yn cael eu cyfathrebu cyn diwedd y tymor ac yn cael eu cyhoeddi ar Hwb.

Lleoliadau arholiadau

Cynhelir dy arholiadau mewn lleoliadau ar draws Campws Parc Singleton a Champws  y Bae. Mae manylion am y rhain gan gynnwys mapiau ar gael isod:

Gwybodaeth gyffredinol am arholiadau

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am arholiadau, gweler tudalennau gwe’r Swyddfa Arholiadau, sy’n cynnwys gwybodaeth am y pethau i’w gwneud a’u hosgoi yn ystod dy arholiadau, lleoliadau arholiadau a chwestiynau cyffredin.

We’d like to take this opportunity to wish you the best of luck with your assessments and exams!

Student Life Team