Mae Tîm Mynd yn Fyd-eang wedi casglu ynghyd ystod eang o gyfleoedd rhyngwladol – ac mae cyllid hael ar gael i fyfyrwyr cymwys! O raglenni 3 i 9+ wythnos, mae rhywbeth at ddant pawb. Dychmyga dy hun yn teithio i Ffiji, Tanzania, neu Sri Lanka, yn gweithio mewn gwersyll haf yn yr UDA neu efallai hyd yn oed yn cael profiad addysgu yng Ngwlad Thai.
Gallai hwn fod yn gyfle delfrydol i ti deithio, dysgu a chreu atgofion a fydd yn para oes!
“Roedd fy amser yn Tanzania gyda Challenges Abroad yn wirioneddol fythgofiadwy.Wrth wirfoddoli mewn ysgolion, addysgais i chwaraeon a lles i blant, a wnaeth fy ngwthio i addasu, bod yn greadigol, a chysylltu ar draws diwylliannau.Archwiliais Tanzania, ymgollais yn ei diwylliant, ac adeiladais gysylltiadau ystyrlon â’r gymuned – profiad a oedd yn werthfawr ac yn gofiadwy.”
Oes gen ti ddiddordeb?
Gwna gais erbyn 11.59pm 4 Ionawr 2026 i gael dy ystyried am gyllid (ddim ar gael i fyfyrwyr blwyddyn olaf). Mae cyllid yn gyfyngedig ac ar gael ar sail y cyntaf i’r felin, felly brysia wneud cais!!